Tachwedd 2026

17/11/2026

Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ddewis i arwain Hwb Cyflogaeth Ieuenctid newydd yn Sir Ddinbych

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dewis Sir Ddinbych yn Gweithio i arwain Hwb Ieuenctid newydd yn y Rhyl, gan ddod ag ystod o wasanaethau, cymorth a chyfleoedd ynghyd i helpu pobl ifanc ledled Sir Ddinbych i symud ymlaen i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Mae’r Hwbiau Ieuenctid yn rhan ganolog o ymdrech ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, gyda buddsoddiad o £2.5 biliwn yn sail i’r gwaith.

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi Sir Ddinbych yn Gweithio i ehangu ei gyrhaeddiad a sicrhau bod mwy o bobl ifanc ledled y sir yn gallu cael mynediad at gymorth wedi’i deilwra, yn eu cymunedau, ni waeth ble maent yn byw. Drwy’r Hwb Ieuenctid newydd a gweithgareddau allgymorth ledled Sir Ddinbych, bydd pobl ifanc yn gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys cymorth cyflogadwyedd, cyngor gyrfaoedd, cyfleoedd addysg a hyfforddiant, cyngor ar lesiant, a chysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr lleol sy’n cynnig swyddi gwag, profiad gwaith a phrentisiaethau.

Drwy ddod â phartneriaid ynghyd mewn un lle, bydd yr Hwb yn creu llwybrau cliriach at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, gan helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial llawn.

Bydd Hwb Ieuenctid newydd Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i leoli yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl, a bydd yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Mae Gorsaf VIBE eisoes yn gartref i ystod wych o wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd. Mae’n lle i bobl ddod ynghyd, cymryd rhan, magu hyder a darganfod beth sy’n bosibl. Bydd ein Hwb Ieuenctid newydd yn ychwanegu elfen arall o gymorth at yr hyn sydd eisoes ar gael, gan ddod â chymorth cyflogaeth, sgiliau a datblygiad ynghyd mewn amgylchedd croesawgar sy’n addas i bobl ifanc.

Nod yr Hwb Ieuenctid yw helpu pobl ifanc i weld sut y gallai eu dyfodol edrych a theimlo bod ganddynt gefnogaeth i gymryd y cam nesaf tuag ato. P’un a ydynt yn archwilio opsiynau gyrfa, yn ystyried addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, neu’n wynebu heriau personol sy’n ei gwneud yn anodd symud ymlaen, bydd yr Hwb yn darparu mynediad at gymorth wedi’i deilwra mewn amgylchedd croesawgar, modern ac ysbrydoledig.

Drwy ddod â Sir Ddinbych yn Gweithio, Hyfforddwyr Gwaith Jobcentre Plus ac ystod o bartneriaid lleol ynghyd, bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cyngor, y cyfleoedd a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i fagu hyder, goresgyn rhwystrau a symud ymlaen tuag at ddyfodol cadarnhaol.

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio ochr yn ochr â Hyfforddwyr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau partner i gynnig cymorth personol a chydgysylltiedig. Gallai hyn gynnwys cymorth i chwilio am swyddi, paratoi CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, datblygu sgiliau digidol a chyflogadwyedd, cael mynediad at hyfforddiant a chael profiad gwerthfawr.

Bydd y cymorth hefyd yn cydnabod y gall llesiant a heriau eraill y tu allan i waith effeithio ar daith person ifanc, gan eu helpu i gysylltu â’r gwasanaethau cywir lle bo angen.

Bydd cyfleoedd hefyd i gysylltu â chyflogwyr lleol a dysgu am swyddi gwag, prentisiaethau a llwybrau eraill i gyflogaeth. Drwy ddod â chymorth a chyfleoedd yn agosach at ei gilydd, nod yr Hwb yw helpu pobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau, goresgyn rhwystrau a gwneud cynnydd tuag at eu nodau eu hunain.

Dechreuodd y gwasanaeth ar 6 Tachwedd 2026, ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yng Ngorsaf VIBE. Bydd Hyfforddwyr Gwaith yn trefnu apwyntiadau ymlaen llaw. Yn ogystal â chynnig cymorth wyneb yn wyneb yn y Rhyl, bydd y rhaglen hefyd yn cyrraedd pobl ifanc mewn rhannau eraill o Sir Ddinbych lle bo angen.

Dywedodd Pat McFadden, Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau:

“Mae’r Hwb Ieuenctid newydd hwn yn gam mawr ymlaen i bobl ifanc yn Sir Ddinbych, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd ymarferol yma yn eu cymuned.

“Rydym yn benderfynol o ddod â chyfleoedd i bob rhan o’r wlad, oherwydd ni waeth ble rydych yn cael eich magu, rydych yn haeddu’r cyfle i ennill bywoliaeth, i ddysgu ac i symud ymlaen mewn bywyd.”

Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae Hwb Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirsefydlog i symleiddio mynediad at gymorth a chreu llwybrau clir i bobl ifanc symud ymlaen.

“Drwy ddod ag arbenigedd Sir Ddinbych yn Gweithio a’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghyd, bydd yr Hwb Ieuenctid yn darparu dull mwy cydgysylltiedig o gefnogi pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial.”

Dros gyfnod y rhaglen o 12 mis, nod yr Hwb yw cefnogi dros 160 o bobl ifanc, gan eu helpu i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Mae’r cynnig yn rhan o Gynnig Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae wedi’i gynllunio i ategu’r cymorth sydd eisoes ar gael, gan weithio mewn partneriaeth i helpu pobl ifanc i gael mynediad at y cyfleoedd a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt.

Gyda’r Hwb Cyflogaeth Ieuenctid yn ymuno â’r ystod eang o gymorth sydd eisoes ar gael yng Ngorsaf VIBE, bydd gan bobl ifanc le dibynadwy arall i droi ato am arweiniad, anogaeth a chymorth ymarferol wrth iddynt ystyried eu camau nesaf.

P’un a ydynt yn chwilio am waith, yn ystyried addysg bellach neu hyfforddiant, neu angen cymorth i oresgyn rhwystrau a allai fod yn eu dal yn ôl, bydd yr Hwb yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gallant gael gafael ar y cyngor, y cyfleoedd a’r cysylltiadau sydd eu hangen i symud ymlaen gyda hyder.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol dros Dyfiant Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl ifanc ledled Sir Ddinbych. Rydym am i bob person ifanc deimlo’n obeithiol am eu dyfodol a gwybod bod cymorth ar gael i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau.

“Bob dydd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu bobl i gymryd camau cadarnhaol tuag at eu nodau, ac rydym wrth ein bodd yn gallu cynnig yr arbenigedd a’r cymorth hwnnw i hyd yn oed mwy o bobl ifanc drwy’r Hwb Cyflogaeth Ieuenctid newydd.

“Bydd yr Hwb yn cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd, sgiliau, arweiniad ac anogaeth, gan eu helpu i oresgyn rhwystrau a chymryd camau hyderus tuag at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

“Drwy fuddsoddi yn ein pobl ifanc, rydym yn buddsoddi yn nyfodol Sir Ddinbych ac yn helpu i greu cymunedau cryfach, gwell rhagolygon a dyfodol cadarnhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru Llywodraeth y DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, y Gronfa Twf Lleol i Gymru, a Cysylltu â Gwaith.

Comments