25/11/2026
Tymor newydd i brosiect plannu coed mewn ysgolion

Bydd tymor newydd o blannu coed yn ysgolion y sir yn helpu natur leol ar draws Sir Ddinbych.
Bydd disgyblion mewn chwe ysgol yn ymuno gydag aelodau tîm Gwasanaeth Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu coed amrywiol ym mhob ysgol.
Mae lansiad y prosiect newydd plannu coed mewn ysgolion yn cyd-daro ag Wythnos Genedlaethol Coed eleni, sydd â’r thema ‘coed yn eich ardal chi’, ac mae’n ymwneud â dathlu’r coed sy’n rhan o’n bywydau bob dydd. O goed ar diroedd ysgolion, mewn cymunedau a gofodau gwyrdd lleol, i’r rhai ar hyd ein strydoedd ac yn ein parciau, mae’r coed hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i’r lle rydym yn byw.
Mae’r ysgolion canlynol yn ymwneud â phlannu coed y tymor hwn:
- Ysgol Hiraddug, Dyserth
- Ysgol Carrog
- Ysgol Frongoch ac Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych
- Ysgol Plas Cefndy, y Rhyl
- Ysgol Gatholig Crist y Gair, y RhylBydd y gwaith plannu yn cael ei ariannu gan Raglen Hinsawdd a Natur y Cyngor trwy ei brosiect creu Coetir, ar wahân i’r gwaith yn Ysgol Hiraddug, Dyserth, a gaiff ei ariannu trwy Gronfa Plannu Coed Cymunedol Network Rail.
Cyn hir, bydd disgyblion yn estyn eu menig yn barod i blannu gwrychoedd a choed safonol yn eu hysgol i helpu eu bioamrywiaeth leol a chreu ardaloedd newydd a allai helpu gydag addysg awyr agored yn y dyfodol.
Yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant ddysgu am fyd natur lleol mae’r cynefin hefyd yn ardal a fydd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn lleol, diolch i’r holl goed ychwanegol sydd wedi’u plannu. Bwriedir i’r gwaith plannu gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2027.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae mor bwysig cynnwys ein plant yn y gwaith o amddiffyn natur leol, oherwydd bydd yr hyn yr ydym yn ei wneud rŵan yn effeithio ar eu dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i’r swyddogion a’r ysgolion am drefnu plannu coed yn y safleoedd y tymor hwn, a fydd yn helpu i greu cynefinoedd pwysig i helpu ein natur i ffynnu a goroesi, a rhoi ardal ddysgu awyr agored i’r disgyblion.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau gwaith y tymor hwn, a gobeithio y caf gyfle i helpu un neu ddwy o’r ysgolion gyda’r gwaith plannu hefyd, oherwydd mae’n fenter wych.”