07/11/2025
Cartref Gofal Dolwen yn croesawu'r cyhoedd i Ffair yr Hydref flynyddol
Agorodd Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych ei ddrysau yn ddiweddar i ddathlu'r Hydref.
Eleni, cafodd ymwelwyr â'r Ffair Hydref flynyddol eu cyfarch gan bwmpenni, bwganod brain, garlandau a baneri a oedd yn addurno'r cartref, gyda nifer o gemau hwyliog ac adloniant hefyd ar gael drwy gydol y dydd.

Mi oedd gemau a gweithgareddau ar gael i ymwelwyr, gyda'r ymwelwyr hefyd yn cael eu herio i ddyfalu pwysau cacen a chymryd rhan mewn helfa drysor o amgylch y cartref.
Cynhaliwyd cystadleuaeth gwisg ffansi hefyd, ac roedd lluniaeth flasus fel siocled poeth a danteithion ar gael i'w prynu yn yr ystafell ddydd.
Gosodwyd stondinau bric-a-brac a chacennau a chrefft o amgylch y cartref gyda gwahoddiad i artistiaid lleol hefyd arddangos eu gwaith.

Rhoddwyd yr elw a gasglwyd o'r ffair tuag at gronfa gysur y preswylwyr a diffibrilwyr Dinbych.
Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:
“Roedd yn wych croesawu’r cyhoedd i’r cartref unwaith eto eleni i ddathlu’r Hydref a Chalan Gaeaf.
Mae’r preswylwyr bob amser yn edrych ymlaen at y ffair hon, gyda’r cartref wedi’i addurno ag addurniadau a lliwiau’r Hydref i ddathlu. Cawsom ni gynulliad gwych eleni, gyda’r elw o’r diwrnod yn mynd tuag at gronfa gysur y preswylwyr a hefyd at ddiffibrilwyr Dinbych.
Diolch i bawb a ddaeth draw, cawsom ni ddiwrnod gwych!”