11/11/2025
Twrnamaint prawf Ewro dan 19 UEFA i’w chynnal yng ngogledd Cymru
Bydd Cymru yn cynnal twrnamaint rhyngwladol fis Tachwedd gyda phump o'r chwe gêm yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych. Mae'r twrnamaint hwn yn rhan o'r paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Ewro dynion dan 19 UEFA 2026, gaiff hefyd ei gynnal ledled y rhanbarth.
Bydd y twrnamaint yn cynnwys rhai o dimau ieuenctid gorau'r byd, gan gynnwys yr Almaen, UDA a Japan. Caiff gemau eu chwarae mewn sawl lleoliad ledled y gogledd, gan gynnwys Parc Canolog, Tref Dinbych), Stadiwm Belle Vue, y Rhyl, a STōK Cae Ras, cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd Craig Knight yn arwain tîm dynion dan 19 Cymru unwaith eto, gan geisio adeiladu ar eu gemau cyfeillgar rhyngwladol fis Hydref yn erbyn y Swistir, yr Iseldiroedd a Lloegr.
Mae’r twrnamaint yn gyfle amhrisiadwy arall i Gymru ddatblygu yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol elitaidd, cyn rowndiau terfynol Ewro dan 19 UEFA yn haf 2026.
Bydd tair gêm Cymru yn cael eu ffrydio'n fyw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar ei gwasanaeth ffrydio RedWall+ a llwyfan YouTube.
Dyma amserlenni gemau'r twrnamaint:

Gyda'r mwyafrif o docynnau, gellir eu prynu wrth y fynedfa heblaw am y canlynol:
Cymru v Siapan - https://www.eticketing.co.uk/fawtickets-english/EDP/Event/Index/531
Cymru v UDA - https://www.eticketing.co.uk/wrexhamafc/EDP/Event/Index/1141?position=1
Mae rhagor o wybodaeth am baratoadau tîm Cymru ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.