04/11/2025
Y ddiweddaraf am y gwelliannau i’r parth cyhoeddus ar Sgwâr Sant Pedr
(Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun)
Mae Cyngor Sir Dinbych yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r parth cyhoeddus yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Bydd y gwaith arfaethedig yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.
Gyda’r prosiect yn mynd rhagddo, mae Cyngor Sir Ddinbych bellach yn gallu ymgynghori ynghylch tri Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ddogfennau cyfreithiol sydd eu hangen i wneud newidiadau i gyfyngiadau ar draffig a pharcio, fel llinellau melyn dwbl a strydoedd unffordd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei rhwng 3 a 30 Tachwedd a bydd yn gofyn am farn y cyhoedd am gyflwyno system unffordd, cyfyngiadau newydd ar barcio a chynigion i gyflwyno parcio am ddim ar y sgwâr.
Gwahoddir trigolion hefyd i sesiwn wybodaeth yn yr Hen Lys yn Rhuthun ar 17 Tachwedd rhwng 12pm a 6pm.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Tra bod y prosiect yn ddatblygiad cyffrous yn Rhuthun, a fydd yn adfywio’r sgwâr, rydym ni’n sylweddoli y bydd y gwaith yn effeithio ar breswylwyr a busnesau.
“O ganlyniad, mae perchnogion busnesau ar ac o gwmpas y sgwâr, a phreswylwyr y strydoedd sy’n cael eu heffeithio gan y gwaith, wedi cael llythyr a holiadur byr gan ein swyddogion, a fydd yn hysbysu’r ffordd y bydd y gwaith yn cael ei reoli i osgoi tarfu’n ormodol ar fusnesau a phreswylwyr.
“Hoffaf annog preswylwyr i fynegi eu barn am y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig drwy naill ai ddod i’r digwyddiad ar 17 Tachwedd yn yr Hen Lys yn Rhuthun neu drwy lenwi’r ffurflen ymgynghori ar ein gwefan.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cliciwch yma. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar ein gwefan.