05/11/2025
Hwb plannu coed ar gyfer gwarchodfa natur

Mae mwy o wreiddiau wedi cael eu gosod i gefnogi bioamrywiaeth unigryw gwarchodfa natur newydd yn y sir.
Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, unodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr o fusnes Celtic Financial Llanelwy i gynyddu’r gorchudd coed yng Ngwarchodfa Natur Green Gates.
Mae miloedd o goed sydd wedi tyfu o hadau lleol ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor, sydd wedi’i leoli yn y warchodfa, eisoes wedi cael eu plannu yn y warchodfa yn gynharach eleni.
Helpodd staff Celtic Finance, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Busnes Llanelwy, y tîm Bioamrywiaeth i blannu 450 o goed gan gynnwys cymysgedd o goed derw, helyg, gwern, bedw, llwyfen lydanddail, aethnen ddu, ceirios ac ysgawen o amgylch yr ardaloedd gwlypdir a fydd yn gartref i Brosiect Afancod Sir Ddinbych.
Mae gwaith hadu blodau gwyllt hefyd wedi digwydd yr wythnos hon er mwyn helpu i ddarparu bioamrywiaeth gryfach yn y warchodfa i gefnogi bywyd gwyllt ar y safle. Mae’r ardaloedd sy’n cael eu hadu’n cynnwys y domen gwylio a rhai o’r byndiau o amgylch y safle. Mae mwy o gyfuniadau penodol i wlypdir ac ochr pwll hefyd yn cael eu plannu er mwyn creu amrywiaeth a gweddu amodau pob rhan o’r safle.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn falch iawn bod busnes ar stepen drws y safle datblygu wedi ein helpu ni i barhau i blannu gwreiddiau a fydd yn ased gwych ar gyfer natur leol.
“Mae’n wych hefyd bod coed a dyfwyd yn ein planhigfa goed yn Llanelwy yn gallu cael eu defnyddio yn y warchodfa natur hon. Mae ein gwirfoddolwyr a’n Tîm Bioamrywiaeth wedi gweithio’n galed i ganfod a thyfu’r coed yn y blanhigfa, a bydd hyn o gymorth mawr gyda lleihau carbon yn y sir, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a helpu i gefnogi adferiad natur.”
Mae’r warchodfa natur 70 erw yn rhan o ymateb y Cyngor i warchod ac adfer cynefinoedd natur leol i gyfrannu at y nod o adfer natur.
Mae Prosiect Gwarchodfa Natur Green Gates wedi derbyn cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi cael ei ddarparu o Raglen Adfer Natur a Hinsawdd Sir Ddinbych. Caiff y gwaith yn y blanhigfa goed ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.