Tachwedd 2025

18/11/2025

Y Cabinet yn cytuno ar gynigion ar gyfer darpariaeth toiledau cyhoeddus yn y dyfodol

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, gyda chefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Yng nghyfarfod y Cabinet heddiw, cydnabu Aelodau Arweiniol gostau gweithredol pob cyfleuster cyhoeddus yn y sir, ac ystyriwyd y cynnig ar gyfer pob cyfleuster yn unol â safbwynt pob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned.

Ers mis Mai eleni mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio ymhellach gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i geisio cadw cymaint o doiledau cyhoeddus â phosibl yn agored ar ôl 31 Mawrth 2026.

Er bod y Cyngor yn cydnabod eu pwysigrwydd, mae toiledau cyhoeddus yn wasanaeth anstatudol, ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu.

Nid yw’r arian a dderbynnir gan y Cyngor wedi bod yn cyd-fynd â’r pwysau ariannol a chost gynyddol darparu gwasanaethau, yn arbennig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg.  Felly mae yna lai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, megis toiledau cyhoeddus.

Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ganfod model cynaliadwy i ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosibl, a heddiw cydnabu Aelodau’r Cabinet gynigion ar gyfer cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus yn agored, diolch i’r dull cydweithredol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gwybod ac yn cydnabod bod toiledau cyhoeddus yn gyfleusterau gwerthfawr i’n preswylwyr yn Sir Ddinbych. Ers mis Mai rydym wedi bod yn siarad eto â’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol mewn ffordd agored a thryloyw i ganfod ffordd gydweithredol o gadw’r cyfleusterau hyn yn agored.

“Rydw i eisiau diolch i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu hagwedd gadarnhaol a’u cydweithrediad, sydd wedi ein helpu i gyrraedd y sefyllfa lle gallwn bellach gadw’r rhan fwyaf o’n toiledau cyhoeddus yn agored.”

Mae manylion llawn y cynigion a roddwyd ger bron y Cabinet ar gael yma

 

Comments