Tachwedd 2025

20/11/2025

Gwasanaethau Arlwyo’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

Mae tîm y Gwasanaethau Arlwyo wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2025. 

Mae’r Gwasanaeth Arlwyo’n cynnal 54 o geginau ysgol ar draws Sir Ddinbych yn ddyddiol i gynhyrchu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion. Mae hynny’n 67,500 pryd sy’n cael ei weini yn ystod yr wythnos i helpu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu.

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU. Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.

Maent yn ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth yn darparu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ar draws y DU.  Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Perfformio Orau ac sydd wedi Gwella Fwyaf yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformiad yr ASPE.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’n bleser gweld bod ein Gwasanaeth Arlwyo gwych wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith i ddarparu prydau iach a chytbwys sy’n rhoi’r dechrau gorau i ddiwrnod ysgol ein plant. 

“Mae staff arlwyo’n parhau i wneud ymdrech arbennig bob dydd i ddarparu miloedd o brydau  bwyd cytbwys eu maeth, a hynny gan ddefnyddio gofal a chynnyrch lleol, a dylent fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.”

 

 

Comments