04/11/2025
Hwb i ynni solar i ysgolion cynradd Rhuthun

Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni ar safle addysg ysgol gynradd yn Rhuthun.
Mae gwaith wedi’i gwblhau yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras i osod paneli ffotofoltaig ychwanegol ar do’r adeilad, gan helpu i leihau dibyniaeth ar ynni’r grid cenedlaethol, costau hirdymor ac allyriadau carbon o’r adeilad.
Mae’r cyfan yn rhan o ymdrech Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd a chostau ynni mewn adeiladau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol.
Mae Tîm Ynni’r Cyngor wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.
Bu iddynt helpu adran Addysg y Cyngor o ran asesu sut i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad.
Roedd y gwaith yn cynnwys cynyddu’r system solar ffotofoltäig 16.80kWp presennol ar do’r ysgol i system solar ffotofoltäig 56.85kWp.
Bydd y paneli ffotofoltaig newydd, ochr yn ochr â’r rhai presennol, yn helpu i ddefnyddio ynni o’r haul i bweru’r safle, gan leihau’r pwysau ar y system grid lleol a helpu i leihau allyriadau carbon ar y safle.
Bydd pob cilowat a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaig ac a ddefnyddir gan yr ysgolion yn arbed tua 22 ceiniog.
Bydd y paneli solar ffotofoltäig ychwanegol yn arbed oddeutu 43,000kWh i’r safle ac yn lleihau allyriadau carbon o dros wyth tunnell.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Bydd y gwaith hwn o gymorth i ddefnydd ynni cyffredinol y ddwy ysgol ac mae’n gam ymlaen tuag at gynyddu’r gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau addysgol. Mae’r gwaith o’u gosod yn ymdrech ar y cyd rhwng ein tîm Addysg ac Ynni, sy’n cydweithio i helpu i leihau costau ynni hirdymor ac allyriadau ar yr un pryd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein Tîm Ynni’n ddiolchgar iawn i staff y safle am ganiatáu i ni gynnal y gwaith ychwanegol hwn i helpu’r ysgol i leihau defnydd ynni a lleihau costau hirdymor, gan hefyd greu amgylchedd dysgu a lles brafiach i gefnogi disgyblion a staff.
“Dyma ddarn pwysig o waith sy’n cefnogi ein hymdrech barhaus i leihau defnydd ynni a chostau a lleihau olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau, ac mae’n wych gweld yr ysgolion a’n Tîm Ynni yn cydweithio i gyflawni hyn.”