Tachwedd 2025

12/11/2025

Cartrefi ynni effeithlon yn Ninbych yn agos at gael eu cwblhau

Mae datblygiad o 22 cartref ynni effeithlon yn Ninbych yn agos at gael ei gwblhau, a bydd tenantiaid y cartrefi newydd yn symud i mewn yn fuan.

Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n helpu i ddarparu cartrefi newydd ar draws y sir. Mae cynlluniau diweddar eraill yn y dref yn cynnwys hen safle Fflatiau Pennant (Grŵp Cynefin), datblygiad yn Rhodfa Cae Llewelyn wrth ymyl Ysgol Pendref (Adra), a datblygiad Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn (Grŵp Cynefin), ac ynghyd â Llwyn Eirin, bydd yn darparu cyfanswm o 193 o dai fforddiadwy newydd i bobl leol.

Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi cael eu hadeiladu i gyrraedd safonau ynni effeithlon uchel iawn Passivhaus. Mae hyn yn ffurfio rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu’r nifer o dai Cyngor sydd ar gael yn Sir Ddinbych.

Mae’r datblygiad yn cael ei ddefnyddio fel cyfle gwerthfawr i ddysgu i siapio dyfodol cynlluniau adeiladau newydd ac ôl-osod ar draws y Sir, gan gyfrannu at ein hymgyrch barhaus o gyflawni gwres fforddiadwy o fewn tai Cyngor. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â thenantiaid newydd er mwyn sicrhau y gallant elwa’n llawn o ddyluniad a thechnoleg yr adeilad er mwyn lleihau gwariant ar wresogi.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd y cartrefi yma’n helpu i fodloni anghenion tai preswylwyr lleol drwy ddarparu eiddo fforddiadwy o safon uchel. Wedi’u hadeiladu gyda’r lefelau uchaf o insiwleiddiad, maen nhw’n cynyddu effeithlonrwydd ynni, yn lleihau biliau’r cartref, ac yn torri allyriadau carbon - gan helpu i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol drwy leihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil.”

Mae gan bob eiddo baneli solar a phympiau gwres o’r ddaear i ddarparu cynhesrwydd naturiol heb fod angen cyflenwad nwy.

Mae Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i alluogi’r Cyngor i weithio mewn partneriaeth gyda Chreu Menter o’r Rhyl ar y dull arloesol hwn i ddefnyddio cyfansoddion pren a gynhyrchwyd ymlaen llaw i adeiladu tai.

Fe enwyd y datblygiad yn Llwyn Eirin i gofio am Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd, un o gynnyrch hynaf a mwyaf nodedig y dref. Mae’r enw’n adlewyrchu treftadaeth Dinbych tra hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i gynyddu bioamrywiaeth ar draws y Sir.

Comments