24/10/2025
Penodi Prif Weithredwr newydd i Gyngor Sir Ddinbych
Heddiw (Dydd Gwener, 24 Hydref) mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.
Penodwyd Helen White, sy'n ymuno â Sir Ddinbych o Gymdeithas Tai Taf, i'r rôl.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn benodiad rhagorol i Sir Ddinbych a hoffwn longyfarch a chroesawu Helen i'r rôl newydd hon ar ran ein staff, aelodau etholedig a thrigolion ledled y sir.
“Mae'r broses recriwtio wedi bod yn drylwyr iawn ac roedd nifer o ymgeiswyr cryf, gyda phawb yn perfformio i safon eithriadol o uchel.
“Derbyniodd y cyngor ganmoliaeth yn ei Asesiad Perfformiad Panel ar ddiwedd 2024 am fod yn un sy’n cael ei ‘redeg yn dda’, ac mae uwch dîm arweiniol cryf yn ei le. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i arwain y tîm hwn a pharhau â'r llwyddiant i'r dyfodol.”
Yn siaradwr Cymraeg a fagwyd yn Henllan, mae Helen wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol gyda Thai Taf ers 2019. Ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes tai a datblygu cymunedol, mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.
Meddai Helen, "Mae'n anrhydedd i mi fod yn ymgymryd â'r rôl Prif Weithredwr. Rwy'n ymwybodol ei bod yn gyfnod heriol i gynifer yn ein cymunedau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ymroddedig i helpu i gael effaith gadarnhaol yn y sir ble cefais fy ngeni a'm magu.
"Hoffwn ddiolch i Arweinydd y Cyngor a'r holl Aelodau Etholedig eraill am roi eu ffydd ynof fel Prif Weithredwr newydd."