07/11/2025
Arwyddo’r brydles a diwrnod recriwtio llwyddiannus ar gyfer sinema newydd y Rhyl

Mae trefniadau’r brydles wedi'u cwblhau a fydd yn galluogi Merlin Cinemas i fwrw ymlaen gyda’r trefniadau i adfywio Sinema'r Strand yn y Rhyl.
Yr wythnos hon gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych a Merlin gwblhau’r cytundebau fydd yn trosglwyddo'r sinema ar y prom yn swyddogol.
Daeth 89 o bobl i sinema’r Scala i ddiwrnod recriwtio diweddar ar gyfer pobl gyda diddordeb mewn gyrfa yn sinema newydd y Strand yn y Rhyl, gyda 28 yn symud ymlaen i gyfweliadau un-i-un.
O'r rhain, cynigwyd swyddi i 16, y mwyafrif o’r Rhyl a rhai o Brestatyn, Llanelwy, a Dyserth, gan lenwi'r holl rolau cynorthwywyr cyffredinol sydd eu hangen ar gyfer agoriad mawreddog y Strand.
Y cam nesaf fydd gwahodd y rheiny sy’n derbyn y swyddi i raglen hyfforddi yn Sinema'r Scala ym Mhrestatyn, fydd yn cael ei gynnal ychydig wythnosau cyn i'r Strand agor.
Bydd Sinema'r Strand yn y Rhyl yn gweithredu ochr yn ochr â Sinema’r Scala ym Mhrestatyn, sydd eisoes yn rhan o grŵp sinemâu annibynnol Merlin Cinemas.
Yn croesawu’r datblygiad yma, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, “Mae’n newyddion cyffrous clywed bod y brydles wedi’i llofnodi er mwyn caniatáu i ni godi’r llen ar ffilmiau unwaith eto yn y lleoliad pwysig hwn i’r Rhyl.
“Yn dilyn agoriad llwyddiannus Marchnad y Frenhines dros yr haf, bydd y Strand yn atyniad arall i drigolion ac ymwelwyr a bydd yn rhan bwysig o’r catalydd i adfywio ein tref glan môr.
“Mae’n wych hefyd clywed sut mae Merlin a’r Strand wedi helpu pobl leol i ffeindio cyfleoedd gwaith yn lleol, a gobeithio y byddant yn wirioneddol cofleidio eu swyddi yn y diwydiant cyffrous hwn.
“Pan fydd Sinema’r Strand yn agor, rwy’n annog trigolion i ddod i wylio ffilmiau ar y sgrin fawr, yn ogystal â chefnogi cyfleusterau hamdden eraill y dref – mae angen i bawb gefnogi ein busnesau i sicrhau eu llwyddiant parhaus.”
Sefydlwyd Sinemâu Merlin 35 mlynedd yn ôl gydag un sgrin yn nhref Penzance yng Nghernyw ac mae bellach yn gweithredu dros 20 o sinemâu ledled y DU. Mae’r cwmni’n adnabyddus am adfer ac achub lleoliadau hanesyddol a modern fel ei gilydd - mae Merlin wedi ymrwymo i sicrhau bod ymweliad â’r sinema yn fforddiadwy, yn hygyrch, ac yn hudolus i gymunedau lleol.
Dywedodd Geoff Greaves, Cyfarwyddwr Merlin Cinemas “Rydym yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i gael popeth yn ei le fel y gallwn ddechrau ar y gwaith o wneud gwelliannau i sinema’r dref. Bydd hyn yn broses barhaus o ystyried maint a chymhlethdodau’r adeilad. Rydym am agor y sinema cyn y Nadolig gyda dewis o’r ffilmiau diweddaraf, yn ogystal â rhai hŷn, a bydd pric tocynnau’n cyn rhated â £2.50.
“Mae gweld ffilm yn y sinema gyda theulu neu ffrindiau yn brofiad gwahanol iawn i wylio ffilm gartref. Gyda’r tafluniad a’r sain digidol diweddaraf, mae’n fwy cofiadwy ac yn achlysur. Gyda’r gallu ychwanegol o logi’r sinema’n breifat a dangosiadau i ysgolion, rydym yn falch o gael y cyfle i ailagor y sinema hon i bobl y Rhyl, ac rwy’n credu y bydd yn gyfleuster cymdeithasol gwerthfawr.”
Cadwch lygad ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Merlin am y diweddaraf am agoriad y Strand merlincinemas.co.uk