Tachwedd 2025

12/11/2025

Prosiect Pwll Hydrotherapi mewn ysgol yn y Rhyl yn cyrraedd y cam terfynol

Mae prosiect Pwll Hydrotherapi yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl nawr wedi cyrraedd ei gam terfynol, gyda'r adeiladu wedi ei chwblhau gan y contractwr, Bryn Build a throsglwyddo'r adeilad i'r ysgol.

Adeilad pwll hydrotherapi

Mae nifer o gerrig milltir allweddol wedi cael eu cwblhau.

Gosodwyd y pwll ei hun ym mis Hydref, yn ogystal â ffenestri a drysau ar y safle, gyda chwblhad ystafell ymolchi a chyfleusterau newid hefyd. Mae’r prif elfennau mewnol wedi cael eu cwblhau, gyda’r drysau mewnol wedi cael eu gosod, ac ystafell y pwll ac adrannau o’r cyntedd wedi eu paentio.

Mynedfa

Mae’r adeilad ei hun wedi cael ei baentio, a chladin pren addurniadol wedi cael ei osod. Mae’r llwybr sy’n arwain o’r iard i’r caeau chwarae hefyd wedi cael ei adfer, ac mae’n cyd-fynd â’r dyluniad blaenorol.

Mae’r pwll hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd wedi ei leoli ar dir yr ysgol mewn adeilad ar ei ben ei hun; dyma’r cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych.

Fe ddyluniwyd y prosiect gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor, gyda'r presiect yn dechrau yn gynharach yn y flwyddyn.

Bydd y gwaith o osod y platfform mynediad, a fydd yn cwmpasu’r pwll ei hun, yn cychwyn yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda’r cyfleuster yn barod i’w ddefnyddio gan yr ysgol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae’r adeilad yn cynnwys inswleiddiad effeithlon o ran ynni, gan helpu’r cyfleuster i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys system wresogi o dan y llawr.

Pwll Hydrotherapi

Dywedodd Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld ein pwll hydrotherapi newydd yn cymryd siâp ac yn cyrraedd cam olaf yr adeiladu yma yn Ysgol Tir Morfa.

Rydym mor ddiolchgar i’n teuluoedd a’r gymuned leol am eu codi arian a’u cefnogaeth anhygoel. Bydd y cyfleuster gwych hwn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i’n disgyblion wella eu datblygiad corfforol a’u lles cyffredinol.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn cael ei gwblhau. Mae’r adeilad yn edrych yn wych, ac rwy’n falch iawn gyda chynnydd y gwaith ar y safle.

Mae’r prosiect yn dod â chynnig unigryw iawn i’r ysgol; y cyntaf o’i fath yn ein Sir.

Rydw i’n edrych ymlaen at yr agoriad fel y gall yr ysgol ddefnyddio’r cyfleuster i’w llawn botensial.”

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan yr ysgol trwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.

Comments