27/10/2025
Sir Ddinbych yn dathlu statws Cyfeillgar i Oed gydag ymweliad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mewn dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych ddydd Gwener 24 Hydref, ymunodd y gwestai arbennig, Rhian Bowen- Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â thîm Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych i ddathlu bod Sir Ddinbych wedi dod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych.
Yn ystod y digwyddiad, cafwyd sgyrsiau gan gyn-gadeiryddion a chadeiryddion presennol rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, a fu’n sôn am eu taith hyd yma a sut y llwyddwyd i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Comisiynydd gydag Aelodau'r Clwb Ieuenctid ac Alison Price, Age Connects Canol Gogledd Cymru.
Mewn sesiwn ryngweithiol o’r enw ‘Ffyrdd o heneiddio’n dda’, gofynnodd panel o bobl ifanc gwestiynau gwybodus, meddylgar a difyr i banel tebyg o bobl hŷn. Ffordd hwyliog a difyr o bontio’r bwlch rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau.
Cwestiwn ac ateb.
Eglurodd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies ei rôl a phwysigrwydd heneiddio’n dda a chafwyd siawns i’r rhai oedd yno ei holi.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Roedd yn wych bod Rhian Bowen-Davies, y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ymuno â ni i ddathlu ein bod yn aelod o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd.
Ni fyddai dathlu’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled partneriaid ymroddedig Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych.
Mae’n gyflawniad gwych, ond dim ond megis dechrau ydyn ni i barhau i wneud Sir Ddinbych yn lle gwych i dyfu’n hŷn.”
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Roedd hi’n wych bod yn ôl yng Ngogledd Cymru i ddathlu Sir Ddinbych yn ymuno â Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, gan gydnabod yr holl waith caled sy’n cael ei wneud ar draws y sir i wneud cymunedau’n gyfeillgar i oedran a chefnogi pobl i heneiddio’n dda.
Roedd hi hefyd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am daith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, a’r ffyrdd y mae’r tîm wedi gweithio gyda phobl hŷn a phartneriaid eraill i gyflawni cymaint, gan oresgyn amrywiaeth o heriau ar hyd y ffordd.
Fel bob amser, mwynheais siarad â phobl hŷn am fy rôl, ateb eu cwestiynau a chlywed yn uniongyrchol am y newid a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld, sydd bob amser yn werthfawr iawn.
Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses am roi croeso mor gynnes i mi, a da iawn am gael eich cyflawniadau wedi’u cydnabod ar lwyfan y byd!”