05/11/2025
Prosiect estyniad Ysgol y Castell yn dod yn ei flaen
Mae gwaith ar brosiect ymestyn ystafelloedd dosbarth Ysgol y Castell wedi cymryd cam ymlaen gyda gosod y tanc gwanhau bellach wedi'i gwblhau. Mae propiau dros dro hefyd wedi'u gosod yn y ddwy ystafell ddosbarth gyntaf sydd i'w hymestyn i baratoi ar gyfer tynnu'r waliau allanol.
Gwaith ar y safle
Disgwylir i Brynbuild, contractwr y prosiect, fwrw ymlaen rwan â gwaith draenio, ynghyd â dechrau cam cyntaf uwchraddio goleuadau LED ledled y safle.
Yn ystod y prosiect, bydd Ysgol y Castell yn Rhuddlan yn derbyn uwchraddiadau gofod ychwanegol mewn pedwar o'i hystafelloedd dosbarth presennol yn ogystal â gwaith gwella ynni.
Dechreuodd cam cyntaf y prosiect yr haf hwn gyda gwaith lleihau ynni pellach wedi'i gynllunio ar gyfer ail gam y gwaith.
Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod i 4 ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.
Disgwylir i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2026.
Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Rwy'n falch o weld bod y prosiect hwn yn symud i’r cam nesaf yn y broses.
Mae hwn yn gynllun hir-ddisgwyliedig, a fydd yn dod â chyfleusterau wedi'u diweddaru a lle ychwanegol hollbwysig sydd ei angen yn fawr i'r ysgol.
Mae Ysgol y Castell yn safle diddorol a hanesyddol iawn, ac rwy'n falch o weld ei fod yn derbyn yr uwchraddiadau y mae'n eu haeddu.”