Tachwedd 2025

17/10/2025

Tîm yn paratoi i ddelio â thywydd y gaeaf

Mae paratoadau ar gyfer tymor cynnal a chadw’r gaeaf sydd i ddod wedi dechrau yn Sir Ddinbych.

Mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn paratoi at dywydd gaeafol posibl ar draws y Sir allai amharu ar rwydwaith ffyrdd y rhanbarth.

Mae cerbydau graeanu wrthi’n cael eu gwasanaethau cyn y tymor ac mae gweithwyr wedi cwblhau hyfforddiant pan fo angen hynny.  Mae gyrwyr newydd wedi cael eu hychwanegu at rota Cynnal a Chadw’r Gaeaf ochr yn ochr â gyrwyr wrth gefn at y criw sydd eisoes yn gyrru. 

Fe fydd y Cyngor hefyd yn defnyddio llai ar y fflyd bresennol o gerbydau graeanu eleni, ac yn defnyddio wyth cerbyd graeanu newydd wedi cael eu harchebu i helpu i gefnogi dyfodol y gwasanaeth. 

Mae rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn cwmpasu ffyrdd gwledig sy’n cael eu defnyddio’n anaml yn ogystal â’r ffordd Dosbarth A uchaf yng Nghymru. Mae hefyd yn ymestyn i ffyrdd strategol rhanbarthol hanfodol megis yr A55, a thraciau culion i eiddo anghysbell.

Mae’r rhwydwaith graeanu’n cael ei rannu mewn i naw Llwybr Graeanu â Blaenoriaeth: mae pedwar yn ymdrin â gogledd y Sir, mae tri yn ymdrin â chanol y sir a dau yn ymdrin â de y sir. 

Mae’r naw llwybr yma’n cwmpasu tua 950km, ac mewn gwirionedd yn trin 605km o gyfanswm rhwydwaith Sir Ddinbych, sydd yn 1416km.

Wrth gynllunio’r naw llwybr graeanu, fe ystyrir y canlynol: Dyma’r ffyrdd a ystyrir yn Llwybrau Blaenoriaeth Gyntaf i gael eu graeanu pan fo angen gwneud hynny: - Cefnffyrdd yr A55, A5, A494, pob Ffordd Dosbarth 1 a Dosbarth 2, h.y. rhwydwaith ffyrdd A a B.

Ffyrdd pwysig eraill yn y Sir sydd yn lwybrau trwodd sydd â lefelau uchel o draffig; neu’n darparu o leiaf un mynediad i ganolfannau sy’n ymateb i argyfyngau neu’n derbyn derbyniadau argyfwng; Ffyrdd Dosbarth 2 neu 3 y Sir, sydd yn darparu o leiaf un mynediad i drefi a phentrefi.

Darperir cymorth pellach gan gontractwyr amaethyddol allanol yn ystod tywydd gwael ac eira, ac mae’r rhwydwaith yn cael ei rannu mewn i 31 llwybr ychwanegol.

Mae gan Sir Ddinbych dros 1500 o finiau graean ar draws y Sir sydd wedi cael eu hail-lenwi ar ôl y cyfnod diwethaf o dywydd gwael yn y Sir.

Fe fydd y biniau’n cael eu hail-lenwi fel y bo angen y gaeaf hwn ac os byddant yn isel, fe fydd modd adrodd amdanynt ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Fel arfer ni fydd troedffyrdd yn cael eu graeanu.  Fodd bynnag, rhoddir sylw i rew ac/neu eira ar droedffyrdd mewn ardaloedd trefol cyn gynted â phosibl yn amodol ar argaeledd adnoddau, gan ystyried dwyster uchel y llafur sy’n ymwneud â’r gwaith.  Rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd siopa, dynesfeydd ysbytai, cyffiniau ysgolion, colegau, canolfannau iechyd, a sefydliadau sy’n gofalu am bobl oedrannus.

Mae gan depos y Cyngor yng Nghorwen, Rhuthun a Bodelwyddan lefelau isafswm ac uchafswm o stoc o halen sy’n cael ei gynnal, ac mae archebion wedi cael eu gwneud i gyrraedd y lefelau yma cyn cychwyn y tymor.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Dwi’n gwybod bod y tîm wedi gweithio’n galed ar draws y Sir y gaeaf diwethaf i gadw ein rhwydwaith ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w defnyddio, ac rydym ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n paratoi eto i gefnogi ein preswylwyr wrth i’r gaeaf agosáu.

“Mae gwaith y staff, sydd yn aml ar alw drwy gydol y nos, i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio, yn golygu y gall preswylwyr barhau gyda chyn lleied o amharu i’w diwrnod, a bod amwynderau hanfodol yn hygyrch er gwaetha’r tywydd gwael.”  

 

Comments