13/02/2026
Mwy na dim ond cerddoriaeth
Eleni i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gwnaeth Swyddog Iaith Gymraeg y sir greu rhestr chwarae o ganeuon traddodiadol Cymreig ynghyd â phecyn geiriau i’w defnyddio yng nghartrefi gofal y Sir.
Meddai Gerallt Lyall, “Fel arfer, mae Dydd Miwsig Cymru yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o’r sin gerddoriaeth gyfoes, fywiog sy’n wych ond roeddem ni am greu rhywbeth ychydig yn wahanol.
“Mae caneuon traddodiadol yn rhan greiddiol o’n hanes a'n diwylliant. Maent yn adrodd straeon am ein cymunedau, ein hanes a’n ffordd o fyw. Yn aml, mae’r caneuon hyn yn gyfarwydd hyd yn oed i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ac ar bwrpas fe wnaethom gynnwys rhai caneuon sydd wedi datblygu geiriau Saesneg i’r ‘run diwn fel Cwm Rhondda (Guide Me O Thou Great Redeemer) a Gwŷr Harlech (Men of Harlech).
“Rydym hefyd wedi cynnwys Anfonaf Angel sydd wedi eu hysgrifennu gan Robat Arwyn ac sy’n cael ei chanu gan Rhys Meirion – dau o gerddorion mwyaf blaenllaw Sir Ddinbych, sy’n dod â chynnwys lleol i’r rhestr chwarae.”
Mae llawer o ymchwil wedi’i wneud yn cysylltu effeithiau positif canu a cherddoriaeth yn gyffredinol ar y meddwl ac ar les. Yn ogystal, mae cerddoriaeth yn cael ei gydnabod fel therapi hynod effeithiol i’r sawl sydd â dementia gan helpu gyda’r cof, lleihau straen a gofid gan hefyd ysgogi cyfathrebu ac ymgysylltu ag eraill.
Y gobaith yw y bydd clywed y caneuon traddodiadol yma yn mynd a’r gwrandäwr yn nol mewn amser gan greu cymysgedd o hiraeth, balchder am Gymru a mwynhad.
Mae strategaeth gan Lywodraeth Cymru o'r enw 'Mwy na Geiriau', sy'n ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn ac wedi’i gwreiddio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, fel bod unigolion yn cael gofal sy’n diwallu eu hanghenion ieithyddol heb orfod gofyn amdano. Mae'r rhestr chwarae yma yn ffordd gwahanol o sicrhau bod rhai o'n trigolion yn cael mynediad at y Gymraeg mewn dull hwyliog.
Er bod y pecyn hwn wedi i greu ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, gall y rhestr gael ei chwarae unrhyw bryd e.e. i ddathlu Gŵyl Dewi neu mewn slot rheolaidd mewn cartrefi gofal e.e. bob pnawn Sul am hanner awr o sesiwn gwrando a chanu.
Ychwanegodd Gerallt, “Ein gweledigaeth ni yw i’r adnodd cael ei ddefnyddio i roi’r teimlad i’r gwrandäwr ei bod mewn cyngerdd a’i bod yn gallu canu gyda’r gerddoriaeth.”
Mae’r rhestr chwarae ar YouTube yn agored i bawb a gallwch gysylltu gyda cymraeg@sirddinbych.gov.uk os ydych eisiau'r pecyn geiriau i fynd gyda’r caneuon.
