17/02/2026
Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl.
Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio’n rhannol gan ddechrau ddydd Gwener 27 Chwefror am tua phythefnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle.
Bydd y gwaith draenio rhannol yn galluogi mynediad at y waliau cynnal a gwaith clirio eitemau mwy o amgylch yr ymylon, tra’n sicrhau bod yna ddigon o ddŵr yno i’r elyrch allu parhau ar y llyn yn ddiogel. Fe fydd y llyn yn cael ei ail-lenwi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Mae Swyddfa'r Harbwr, sydd yn rheoli’r Llyn Morol, wedi bod yn gweithio gyda swyddogion o Wasanaeth Cefn Gwlad i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i’r elyrch a bywyd gwyllt arall ar y safle. Mae’r gwaith yma wedi cael ei gynllunio i gael ei wneud y tu allan i dymor nythu bywyd gwyllt a defnyddwyr tymor yr haf.
Mae bioamrywiaeth y llyn, yn ogystal â’r gweithgareddau ar y llyn, yr un mor bwysig i ddyfodol y safle, a rhoddir ystyriaeth lawn i’r llyn at ei gilydd wrth wneud unrhyw waith a phenderfyniadau.