Chwefror 2026

01/02/2026

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych i dderbyn gostyngiadau treth y Cyngor fel rhan o becyn maethu

Bydd gofalwyr maeth sy’n penderfynu maethu drwy’r awdurdod lleol yn cael cynnig hyd at 100% o ostyngiad ar dreth y Cyngor fel rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Bydd gofalwyr maeth llawn amser sy’n cael eu derbyn drwy gynllun Maethu Cymru’n dechrau derbyn y gostyngiad hwn o fis Ebrill eleni fel rhan o fenter trawsnewid y Cyngor, sydd yn ceisio cynyddu niferoedd gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych, gan alluogi plant i dderbyn gofal yn agosach at eu cymunedau a chyflawni canlyniadau gwell. 

Gyda hyn, mae gofalwyr maeth sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol yn cael cynnig pecyn o bolisïau cynorthwyol, a fydd yn cael eu cyflwyno o mis Ebrill. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cymeradwyo polisi cefnogi maethu ar gyfer staff sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol, sy’n gymwys i dderbyn 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Mae ein gofalwyr maeth yn cael effaith enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Rydym yn chwilio am fwy o ofalwyr maeth i ddod a gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc, sy’n gallu darparu cartref diogel a hapus iddynt.

Rydym yn gobeithio y bydd y polisïau sy’n cael eu gweithredu’n pwysleisio ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniad gwerth chweil i Faethu ar gyfer Sir Ddinbych.

Dim ond un o’r polisïau cynorthwyol y byddwn ni’n eu cyflwyno i bobl sy’n penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol ydi hwn, gyda rhai eisoes wedi’u cyhoeddi, a bydd mwy’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Gall maethu wneud gwir wahaniaeth i fywyd plentyn, a gall maethu’n lleol yn Sir Ddinbych newid bywydau plant a phobl ifanc yn ein cymunedau lleol yma yn Sir Ddinbych.

Rydym yn gobeithio y bydd y newid polisi yn helpu darpar ofalwyr maeth i gymryd y cam nesaf, a dod yn ofalwyr maeth lleol, llawn amser gyda’r awdurdod lleol”.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i:

https://sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru/

Comments