28/01/2026
Cychwyn gwaith datblygu Parc Glan yr Afon

Bydd gwaith yn dechrau i hybu datblygu iechyd a llesiant ar hyd Parc Glan yr Afon yn Llangollen.
Gan ddefnyddio arian cyfnod trosiannol Y Gronfa Ffyniant Cyffredin bydd y gwaith sy’n dechrau dydd Llun, 2il o Chwefror, yn cael ei gydlynu gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych.
Mae datblygu’r ardal yn dilyn gwaith gwelliannau blaenorol yn y parc dros y blynyddoedd diwethaf a oedd yn cynnwys creu cwrs golff bach 9 twll ac adnoddau chwarae newydd.
Mae’r Adran Gwasanaethau Stryd yn gweithio i wella’r parc ymhellach er mwyn i drigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau’r lle.
Bydd y prosiect yn cynnwys disodli’r ramp presennol o Barc Aldi i ardal y Parc Sglefrio er mwyn gwella hygyrchedd yr ardal hon i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl eraill sydd ag anghenion hygyrchedd. Hefyd bydd dau lwybr ramp arall i wella hygyrchedd ar draws y parc yn cael eu gosod.
Bydd ffens yn cael ei godi wrth ymyl yr hen ardal chwarae plant er mwyn gwneud yr ardal hon yn fwy diogel, a bydd giât mynediad ychwanegol ar ochr afon y parc.
Bydd gampfa awyr agored hefyd, a bydd yn cynnwys saith eitem o offer er mwyn galluogi defnyddwyr i ymarfer wrth fwynhau golygfa dros yr afon. Yn ogystal â hyn, gosodir dwy fainc picnic hygyrch a fydd yn galluogi mynediad hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Amgylchedd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Barry Mellor:
“Rydym yn falch o allu parhau i wneud gwelliannau ar hyd yr ardal wych hon yn Llangollen drwy’r arian hwn y mae Gwasanaethau Stryd wedi gallu ei gael. Bydd y gwaith hwn yn gwella’r ardaloedd eraill sydd eisoes wedi’u gwella ym Mharc Glan yr Afon ac yn codi proffil y rhan bwysig hon o’r dref, er mwyn gwella profiad trigolion lleol a’r rhai sy’n ymweld â Llangollen.”