29/01/2026
Contractwyr wedi’u penodi ar gyfer prosiectau Rhuthun

Mae'r cyngor wedi penodi contractwr ar gyfer gwaith gwella’r parth cyhoeddus sydd ar droed yn nhref Rhuthun.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud gan OBR Construction ar Sgwâr Sant Pedr a Chae Ddôl a bydd yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.
Bwriedir i waith gwella parth cyhoeddus Sgwâr Sant Pedr ddechrau ar y safle o ganol fis Mawrth 2026 a chaiff ei wneud fesul cam. Bydd oedi ym mis Gorffennaf er mwyn i Ŵyl Rhuthun gael ei chynnal yn ddiogel a heb amhariad.
Bydd yr holl waith adeiladu yn dod i stop dros gyfnod yr ŵyl a bydd y safle yn ddiogel trwy gydol y cyfnod. Ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, bydd gwaith adeiladu yn ailddechrau yn ôl y bwriad.
Bydd gwaith yng Nghae Ddôl i greu llwybr teithio llesol a thrac pwmpio yn dechrau ar ddyddiad diweddarach ar ôl i’r tymor rygbi ddod i ben ym mis Ebrill, er mwyn lleihau amhariad i rai sy’n defnyddio’r tir yn rheolaidd.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd OBR Construction yn darparu swyddog cyswllt busnes i gefnogi busnesau gydag unrhyw wasanaethau cludiant fydd eu hangen yn ystod y prosiect.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Tra bod y prosiect yn ddatblygiad cyffrous yn Rhuthun, a fydd yn adfywio’r sgwâr a Chae Ddôl, rydym ni’n sylweddoli y bydd y gwaith yn effeithio ar breswylwyr a busnesau.
“Trwy gydol y ddau brosiect, bydd OBR Construction a’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r gymuned, yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a rhoi gwybod am unrhyw effaith dros dro. Bydd hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw i sicrhau bod preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn ymwybodol o newidiadau dros dro i fynediad a dulliau rheoli traffig yn ystod y cam adeiladu.
“Wrth i ni baratoi ar gyfer y gwaith yn yr ardal, rydym yn gofyn i bob busnes a phreswylydd nad ydynt wedi llenwi Arolwg Anghenion Mynediad i wneud hynny. Mae ymatebion yn hanfodol i’n helpu i ddeall pa fynediad fydd ei angen ar fusnesau a phreswylwyr pan fydd y gwaith yn dechrau.
“Trwy lenwi’r arolwg, byddwch yn ein helpu i sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i eiddo a thir, gan ganiatáu i ni gynllunio a chefnogi llwybrau priodol a lleihau amhariad yn ystod y gwaith adeiladu.”
Os nad ydych chi wedi llenwi’r arolwg eto neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynlluniau cysylltwch â thîm y prosiect: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk