10/02/2026
Cabinet yn cymeradwyo cynnydd prosiectau i wella Sir Ddinbych
Mae cabinet Cyngor Sir Dinbych wedi cymeradwyo'r datblygiad o bum prosiect a fydd yn dod ag amrywiaeth o fuddion ledled Sir Dinbych.
Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £1.5M o gyllid cyfalaf ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gronfa Effaith Balchder yn ei Le (GEBL).
Nod y gronfa hon yw cyflawni gwelliannau gweladwy i strydoedd mawr a gwella lleoedd ac asedau cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt yn elwa o'r Gronfa Balchder yn ei Lle (GBL) ar wahân, sydd werth £20M.
Yn dilyn penderfyniad y cabinet i gymeradwyo'r broses ddethol, bydd y prosiectau nawr yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid GEBL i Lywodraeth y DU a'u cyflawni erbyn mis Mawrth 2027.
Canolbwyntiodd y dull ar alinio cyllid â phrosiectau a oedd eisoes â chefnogaeth gorfforaethol ond heb gyllid wedi'i nodi, a oedd yn bodloni meini prawf GEBL, a oedd yn fforddiadwy, ac yn gyfiawnadwy erbyn mis Mawrth 2027.
Cynllun adnewyddu ar gyfer Toiledau Cyhoeddus blaenoriaeth mewn Trefi Allweddol –
Bydd y prosiect yn edrych ar adnewyddu'r cyfleusterau cyhoeddus ledled y sir fel y nodwyd yn strategaeth y cyfleusterau cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys gosod taliad digyswllt ac adnewyddu i adlewyrchu adolygiadau cyflwr unigol. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn cynnwys y cyfleusterau cyhoeddus yn y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Rhuddlan, Llangollen a Rhuthun.
Cynllun Grant Datblygu Eiddo Canol Tref –
Bydd y cynllun grant yma yn ceisio mynd i'r afael ag eiddo sy'n ddolurus ar y stryd fawr, ac wedi bod yn llwyddiannus yn flaenorol drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU sydd am ddod i ben ym mis Mawrth. Bydd y prosiect yn dod i rym ledled y sir.
Cynllun Chwarae Hygyrch: Offer chwarae hygyrch ychwanegol a mynediad i gymunedau gwledig –
Mae hwn yn brosiect a fydd yn ceisio gwella'r cynnig chwarae hygyrch mewn lleoliadau gwledig amrywiol o fewn y Sir gan ddefnyddio offer hygyrch a ffyrdd mynediad/allanfa. Bydd y cynnig chwarae hygyrch yn ehangu i'r Wern, Llandrillo, Maes yr Ysgol, Corwen, Nant-y-Pandy, Glyndyfrdwy, Coed Afon, Llangollen a Maes-Y-Dre, Rhuthun.
Cyfleusterau Toiledau Bodelwyddan –
Yn dilyn y gwelliannau sylweddol a wnaed i Barc Gwledig Bodelwyddan a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i ddarparu dros 19000m2 o ofod gwyrdd hygyrch a 2km o lwybrau troed, mae'r prosiect hwn yn bwriadu darparu toiledau cwsmeriaid ar gyfer y parc gwledig sydd wedi'i ailagor er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb.
Darpariaeth ‘Ardal’ Cartrefi Modur –
Nod y prosiect peilot hwn fydd uwchraddio un o'r meysydd parcio yn nhraeth Barkby fel darpariaeth ardal Cartrefi Modur i ddarparu dewis arall i ymwelwyr â Chartrefi Modur i'r ardal trwy ddarparu seilwaith mwy addas. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno ar draws Gogledd Cymru a'r DU ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd:
“Mae’r penderfyniad y mae’r cabinet wedi’i wneud yn tynnu sylw at ymrwymiad Cyngor Sir Dinbych i sicrhau cyllid allanol i gyflawni prosiectau a fydd yn dod ag amrywiaeth o fuddion ledled Sir Dinbych.
“Bydd y pum prosiect yma yn dod â manteision i’r gymuned leol a dewiswyd yn benodol gan eu bod eisoes yn bodloni meini prawf GEBL, o fewn y gyllideb a gellir eu cyflawni erbyn y dyddiad cau.”