Chwefror 2026

30/01/2026

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn dod i Rhyl

Gwahoddir ceiswyr gwaith ledled Sir Ddinbych i ymuno â Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ddydd Mercher, 25 Chwefror, o 10am i 2pm yn Bar a Bwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl.

Wedi'i gynnal mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith, bydd y digwyddiad am ddim hwn yn dod â chymysgedd amrywiol o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer ystod eang o rolau ar draws nifer o sectorau.

Gan adeiladu ar lwyddiant ffeiriau blaenorol - sydd wedi croesawu dros 40-50 o gyflogwyr ac wedi denu cannoedd o fynychwyr - mae digwyddiad hygyrch mis Chwefror hwn yn parhau ag ymrwymiad Sir Ddinbych yn Gweithio i chwalu rhwystrau i gyflogaeth a chysylltu pobl â chyfleoedd go iawn yn agos at adref.

Gall y rhai sy'n mynychu ddisgwyl cwrdd â chyflogwyr sy'n cynrychioli sectorau fel lletygarwch a hamdden, iechyd a gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, gweithgynhyrchu a mwy, gan adlewyrchu'r anghenion amrywiol o ran y gweithlu ar draws y rhanbarth. Bydd sefydliadau fel y Llynges Frenhinol, Heddlu Gogledd Cymru, Haven, a chymysgedd eang o gyflogwyr lleol sy'n cynnig llwybrau gyrfa lefel mynediad a phrofiadol yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae ein Ffair Swyddi i gyd yn ymwneud â chreu mynediad at gyfleoedd i bobl leol.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu amrywiaeth o gyflogwyr sy'n chwilio'n weithredol am ymgeiswyr, ac rydym yn annog trigolion i ddod draw, archwilio beth sydd ar gael, a sgwrsio'n uniongyrchol â sefydliadau sy'n barod i gyflogi.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Mae ein ffair swyddi yn gyfle gwych i drigolion gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a darganfod beth sy'n digwydd ar draws sectorau allweddol yn Sir Ddinbych. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt sbarduno sgyrsiau sy'n newid y dyfodol, meithrin eu hyder, a dangos i bobl yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yma yn ein sir.”

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys ceiswyr gwaith, newidwyr gyrfa, pobl ifanc sy'n archwilio opsiynau, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hyfforddiant neu gymorth cyflogaeth sydd ar gael trwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i sirddinbychyngweithio.sirddinbych.gov.uk neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol trwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Comments