06/02/2026
Casglu sbwriel ar draeth Barkby

Mae digwyddiad casglu sbwriel yn gobeithio mynd i’r afael â sbwriel morol ar ran poblogaidd o arfordir Prestatyn y mis hwn.
Ar ôl ymdrin â’r traethau ger y maes parcio Dwyrain Nova fis diwethaf, mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn trefnu ail ddigwyddiad ar gyfer ardaloedd o faes parcio Traeth Barkby.
Bydd hyn yn digwydd ar 16 Chwefror o 3pm tan 4pm. Mae croeso i rai sydd eisiau cefnogi i godi sbwriel morol ymuno â ni ym maes parcio uchaf Barkby erbyn 3pm.
Oherwydd cefnogaeth gwirfoddolwyr fis diwethaf, cafodd 22 o fagiau o sbwriel morol ei gasglu o’r tywod ac ardaloedd o amgylch y Nova ym mis Ionawr. Cafodd y digwyddiad ei gefnogi hefyd gan Cadwch Gymru’n Daclus a bu iddynt ddarparu rhywfaint o’r offer casglu sbwriel.
Gall sbwriel morol greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Gall casglu sbwriel morol o’r traethau hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol gan y gall traethliniau, twyni a dolydd morwellt gynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr.
Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Bu i’r gwirfoddolwyr a ymunodd â ni fis diwethaf wneud gwaith gwych yn casglu’r sbwriel morol o ardaloedd ger y Nova. Y tro hwn rydym eisiau canolbwyntio ar y darn o faes parcio Traeth Barkby gan ein bod yn gwybod bod mwy o sbwriel yn tueddu i ddod i’r golwg yn y fan hon sy’n gallu cyfrannu at lifogydd lleol a difrodi’r amgylchedd a bywyd gwyllt hefyd.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Mae rheoli’r perygl o lifogydd yn lleol oherwydd effaith sbwriel morol ar ein traethau yn hynod o bwysig i amddiffyn eiddo rhag llifogydd. Mae hefyd yn well i les ein preswylwyr a’r rhai hynny sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn, a’r bywyd gwyllt a ganfyddir ar y traethau, a byddaf yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallant wneud gwahaniaeth i ymuno â ni.”
Am fwy o fanylion, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk/07785517398