17/02/2026
Safle Cyngor Sir Ddinbych i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd yn Y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau partner datblygu i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd sbon ar safle hen fflatiau pobl hŷn ym Maes Emlyn, Y Rhyl.

Bydd gwerthu’r safle i Tai Wales & West yn paratoi’r ffordd ar gyfer adeiladu cartrefi ynni-effeithlon ar gyfer rhent cymdeithasol.
Roedd safle Maes Emlyn gynt yn lleoliad ar gyfer llety i bobl hŷn a oedd yn eiddo i’r Cyngor.
Byddai wedi dod yn fwyfwy heriol i gadw’r fflatiau o safon dderbyniol ac o ganlyniad cafodd y preswylwyr blaenorol eu hadleoli i gartrefi mwy addas mewn mannau eraill yn ardal Y Rhyl.
Mae ymgynghoriad cyn-ymgeisio ar y gweill ar hyn o bryd, sy'n rhoi cyfle i breswylwyr weld a rhoi sylwadau ar gynigion Tai Wales & West cyn i’r cais cynllunio terfynol gael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2026. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau, 12 Mawrth 2026 a gellir dod o hyd iddo ar gwefan Wales & West.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros Dai a Chymunedau:
“Mae hwn yn safle rydym wedi bod eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio eto ers cryn amser, felly rwy’n falch iawn bod yna obaith o ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel yma drwy weithio gyda Tai Wales & West.”
Dywedodd Emma Hancock, Rheolwr Tir a Phartneriaethau yng Ngogledd Cymru ar gyfer Tai Wales & West: “Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i ailddatblygu safle Maes Emlyn. Bydd cais cynllunio ar gyfer adeiladu datblygiad newydd o gartrefi fforddiadwy yn cael ei gyflwyno’r gwanwyn hwn.”