Chwefror 2026

19/02/2026

Grŵp yn mynd i'r afael â sbwriel môr ar draeth Barkby

Mae grŵp wedi dod ynghyd i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol ar dywod traeth Barkby a'r cyffiniau.

Wedi'i drefnu gan Dîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Dinbych, llwyddodd 14 o wirfoddolwyr i gasglu 14 bag o sbwriel o'r traeth a'r cyffiniau ar y diwrnod. Darparodd Cadwch Gymru’n Daclus rhywfaint o’r offer casglu sbwriel a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos hon hefyd.

Ymhlith yr eitemau a dynnwyd oddi ar y traeth roedd stôf wersylla, fflasg thermos a gwialen bysgota.

Trefnwyd y digwyddiad ar 16 Chwefror i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.

Oherwydd cefnogaeth gwirfoddolwyr fis diwethaf, cafodd 22 o fagiau o sbwriel morol hefyd eu casglu o’r tywod ac ardaloedd o amgylch y Nova ym mis Ionawr.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Rydym wedi cael ymateb mor anhygoel eto gan wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwych i’r amgylchedd lleol hwn. Drwy ymdrechion pawb, bydd llai o berygl o lifogydd lleol a difrod i'r amgylchedd a bywyd gwyllt hefyd ar ôl casglu’r sbwriel.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Mae angen i ni barhau i reoli’r perygl o lifogydd lleol oherwydd sbwriel morol yn golchi i fyny ar ein traethau sy’n gwanhau’r amddiffyniad rhag llifogydd.”

 

Comments