Chwefror 2026

12/02/2026

Gwella dulliau archwilio a sicrwydd mewn ysgol yn Y Rhyl

Yn ôl yr adroddiad archwilio diweddaraf ar gyfer Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl, mae lefel y gweithredu yn sgil archwiliadau a’r sicrwydd wedi gwella yn ystod y tair blynedd diwethaf ac mae’r ysgol wedi esgyn o lefel ‘Isel’ i ‘Ganolig’.

Rhoes Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, fesurau arbennig ar waith yn Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl yn 2022 gan nodi materion allweddol a meysydd i’w gwella.

Ers hynny, bu Adran Addysg y Cyngor yn cydweithio â’r Adran Archwilio wrth graffu’n fanwl ar y prif broblemau yn yr ysgol ac fe luniwyd y cynlluniau gwella ar sail hynny.

Cyhoeddwyd tri o adroddiadau archwilio ers 2022.

Yn yr adroddiad archwilio cyntaf yn 2022, rhoddwyd lefel sicrwydd ‘Isel’ ond yn yr un diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025, roedd hynny wedi gwella i ‘Ganolig’, sydd lefel islaw’r un uchaf posib.

Cychwynnodd yr archwiliad cyntaf ym mis Rhagfyr 2022, tua phum mis wedi i Estyn roi mesurau arbennig ar waith yn yr ysgol. Amlygwyd pump o broblemau yn yr adroddiad gyda phedwar ohonynt yn y categori ‘Mawr’ ac un yn ‘Gymedrol’.

Rhoddwyd lefel sicrwydd ‘Isel’ i’r ysgol yn 2022, sydd lefel uwchlaw’r un isaf, ac amlygodd yr archwiliad bedair o risgiau ‘Mawr’:

  • Trefniadau llywodraethu gwan.
  • Angen cryfhau trefniadau ariannol.
  • Dim rheolaeth ar Wrthdaro Buddiannau.
  • Heb sefydlu cyfrif cronfa’r ysgol.

Amlygodd yr archwiliad broblemau â hyfforddi staff hefyd, a nodwyd yn risg ‘Gymedrol’, sef y categori isaf, ac ni amlygwyd unrhyw risgiau ar y lefel uchaf, ‘difrifol’.

Pennwyd cynllun gweithredu pendant yn ystod archwiliad 2022 a gellir gweld fod pethau wedi gwell gan bwyll yn y ddau o’r archwiliadau ers hynny.

Yn yr ail archwiliad a gwblhawyd ym mis Ionawr 2024, dangoswyd cynnydd mewn amryw feysydd ac yn ôl yr archwilydd, bu “gwelliant clir yn y trefniadau llywodraethu.” Hefyd, amlygwyd “gwelliannau arwyddocaol ers yr adolygiad diwethaf”, yn enwedig mewn rheolaeth ariannol ac ymdrin â gwrthdaro buddiannau ac nid oedd y meysydd hynny’n peri pryder mwyach.

Cadarnhaodd yr archwilydd hefyd fod y swyddogion diogelu a chymorth cyntaf wedi derbyn yr hyfforddiant priodol a bod pawb yn yr ysgol yn gwybod pwy oeddent.

Gyda’r gwelliannau hynny, cododd lefel sicrwydd cyffredinol yr ysgol o ‘Isel’ i ‘Ganolig’ gan nad oedd ond mân wendidau ar ôl yng nghyswllt rheoli risgiau, ond nid oedd unrhyw risgiau i gyflawni’r amcanion.

Hanerodd nifer y problemau ‘Mawr’ o bedwar i ddau a dim ond un broblem ‘Gymedrol’ a nodwyd. Roedd pryderon ynglŷn â llywodraethu a phroblemau’n deillio o hen gyfrifon yr ysgol (yn sgil uno Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones ar ffurf Ysgol Crist y Gair) yn dal yn y categori ‘Mawr’. Nodwyd fod hyfforddiant gorfodol yn ‘risg gymedrol’ ym mis Ionawr 2024.

Yn yr archwiliad diweddaraf a gwblhawyd ym mis Hydref 2025, cadwodd yr ysgol ei lefel sicrwydd ‘Canolig’. Ni nodwyd unrhyw risgiau ‘Difrifol’ na ‘Mawr’. 

Rhoddwyd pedwar o risgiau yn y categori ‘Cymedrol’, y categori isaf, gan gynnwys seddi gwag yn y corff llywodraethu, hyfforddiant llywodraethwyr, ymrwymiadau cyllid (a oedd a wnelo’n bennaf â hen archebion prynu na cafodd eu dirwyn i ben) a pheidio â datrys problemau â hyfforddiant gorfodol.

Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, fod problemau â seddi gwag yn y corff llywodraethu, hyfforddiant llywodraethwyr a hyfforddiant staff yn gyffredin mewn ysgolion uwchradd eraill yn y sir a gafodd eu hadolygu yn yr un cyfnod, ac nid yn bethau sy’n neilltuol i Ysgol Crist y Gair.

Dywedodd yr archwilydd bod yr adolygiad wedi amlygu “trefniadau llywodraethu da” a bod “enghreifftiau’n cynnwys cyfarfodydd rheolaidd o’r corff llywodraethu a dogfennau ategol fel rhaglenni a chofnodion manwl er mwyn annog her briodol.”

Dywedir hefyd, “adolygir yr holl bolisïau statudol yn rheolaidd ac maent ar gael i’r staff a llywodraethwyr.”

Nid oedd unrhyw broblemau mwyach â diogelu a dywedodd yr archwilydd, “mae’r polisi diogelu ar gael ar y wefan ac mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant mewnol ychwanegol” ac “mae’r swyddogion diogelu a chymorth cyntaf wedi cael hyfforddiant priodol ac mae posteri’n amlwg o amgylch yr ysgol i ddweud pwy ydynt.”

Nodir hefyd, “mae’r trefniadau iechyd a diogelwch yn effeithiol, cynhelir ymarferion tân a phrofion diogelwch yn rheolaidd ac mae’r asesiadau risg ar gyfer tân yn gyfoes. Ceir camerâu Teledu Cylch Cyfyng ar y safle a pholisi cyfoes ar eu cyfer. Mae’r holl staff wedi cwblhau gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.”

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Hoffwn ddiolch i’r adran archwilio am eu gwaith caled ar y tri o’r adroddiadau archwilio hyd yma.

Mae’r adroddiadau hyn wedi helpu’r ysgol i fynd i’r afael ag amryw ddiffygion a rhoi sylw i feysydd allweddol, a medru darparu llawer gwell amgylchedd i’r disgyblion ddysgu ac i’r staff weithio.

Gwyddom fod angen dal ati i wella, fel y nodwyd yn yr adroddiad archwilio diweddaraf, ond mae’n amlwg fod yr ysgol, yr esgobaeth, yr adran addysg a phartneriaid allweddol yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni’r gwelliannau hynny, fel y gwelir yn yr adroddiad archwilio hen sy’n llawer gwell na’r rhai blaenorol. Byddwn yn dal i weithio i gyflawni argymhellion Estyn yn y flwyddyn i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n amlwg fod pethau wedi gwella wrth gymharu’r tri o adroddiadau archwilio â’i gilydd. Mae lefel sicrwydd yr ysgol wedi codi o ‘Isel’ i ‘Ganolig’ ac yn yr archwiliad diweddaraf, ni nid yw’r archwilydd wedi nodi unrhyw broblemau ‘Mawr’ bellach.

Mae’n amlwg y bu’r staff yn gweithio’n galed iawn a hoffwn ddiolch iddynt am gyfrannu at welliant cyson yn yr ysgol.

Mae digon o waith ar ôl i’w wneud a phroblemau i’w datrys, ond mae’n galonogol gweld y gwelliant hyd yma, fel y nodir yn yr adroddiad archwilio diweddaraf.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Esgobaeth:

“Mae’r Esgobaeth yn gweithio gyda’r Cyngor i hyrwyddo’r gwelliannau a argymhellwyd gan Estyn a’r archwiliadau.

Rydym wedi ein calonogi gan y gwelliannau a nodwyd, ond yn sylweddoli bod gwaith pellach i’w wneud.”

Comments