24/02/2026
Disgyblion Prestatyn yn plannu cefnogaeth ar gyfer natur

Mae disgyblion Ysgol y Llys wedi bod wrthi’n helpu natur ar dir eu hysgol trwy greu cynefinoedd newydd.
Mae disgyblion wedi ymuno gydag aelodau tîm Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu dros 600 o goed amrywiol yn yr ysgol.
Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn creu cynefin newydd ar gyfer natur ar dir yr ysgol, gan gynnwys gwrychoedd, coed safonol, a pherllan.
Mae’r coed maint safonol a blannwyd yn cynnwys gwern, coed criafol, coed cyll, masarn bach, ceirios duon, corswigen a gwifwrnwydd.
Bu’r plant yn plannu bedwen arian hefyd a fydd yn helpu i ddarparu bwyd a chynefin i lawer o rywogaethau pryfaid gan gynnwys pryfed gleision. Mae’r dail yn darparu bwyd hanfodol i lindys llawer o wyfynod gan gynnwys gwyfynod llenni crychlyd, blaenau brigau a bachadenydd graeanog.
Bydd coed llai, gwahanol a blannwyd yn Ysgol y Llys hefyd yn helpu i greu gwrychoedd a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu mwy am sut mae’r math o gynefin yn darparu cefnogaeth i natur leol wrth iddynt ddatblygu ac aeddfedu.
Roedd y coed a blannwyd i greu’r ardaloedd hyn yn cynnwys afalau surion sy’n rhoi ffynhonnell hanfodol o baill a neithdar i wenyn. Mae adar duon, brain a bronfreithod i gyd yn bwyta’r ffrwythau hefyd. Gall llygod, llygod cwta a llwynogod fwyta ffrwythau’r goeden hefyd.
Yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant ddysgu mwy am fyd natur lleol bydd y cynefinoedd newydd a grëwyd yn yr ysgol hefyd yn cyfrannu at amsugno allyriadau carbon yn lleol, diolch i’r coed ychwanegol sydd wedi’u plannu.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i holl ddisgyblion Ysgol y Llys am eu gwaith gwych wrth greu’r ardal newydd hon i gefnogi natur leol ac i elwa lles a dysgeidiaeth yr holl ddisgyblion presennol ac yn y dyfodol.”