05/02/2026
Cyllideb arfaethedig Sir Ddinbych ar gyfer 2026-2027
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno cynigion ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2026-27.
Mae'n ofynnol i bob Cyngor osod cyllideb gytbwys a chyflawnadwy a gosod lefel y Dreth Gyngor bob blwyddyn.
Mae cynghorau ledled y DU yn wynebu pwysau sylweddol. Mae'r galw am wasanaethau yn ein cymunedau yn parhau i gynyddu, ac mae cymhlethdod anghenion wedi cynyddu, yn enwedig mewn Addysg, Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd. Mae cost darparu'r gwasanaethau statudol hyn wedi cynyddu ymhell uwchlaw chwyddiant, gan gynyddu'r gofyn cyffredinol am wariant o ddydd i ddydd.
Ar gyfer 2026/27, rhagwelir y bydd pwysau costau Cyngor Sir Dinbych yn fwy na £20m am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Er bod y cyngor yn derbyn y rhan fwyaf o'i gyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi'i ategu gan y Dreth Gyngor, nid yw’r cynnydd diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru - er yn cael ei groesawu - yn mynd i’r afael â’r pwysau hyn yn gyfan gwbl, gan wneud cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel.
Eleni, y cynnig a gyflwynir yw cynnydd o 4.76% yn y Dreth Gyngor ar gyfer gwasanaethau'r cyngor ynghyd â 0.46% ychwanegol i fodloni'r ardoll uwch gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan arwain at gynnydd arfaethedig o 5.22%.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynghorydd Delyth Jones, “Wrth osod cyllideb eleni rydym wedi ceisio cadw cynnydd y Dreth Gyngor mor isel â phosibl tra'n dal i allu darparu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.
“Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb yn mynd tuag at ysgolion, addysg, a chefnogi oedolion sydd angen gofal. Rydym hefyd yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau i blant ac i bobl sy'n profi digartrefedd. Mae'r gwasanaethau hyn yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gyda'i gilydd, mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cyfrif am 65% o gyfanswm cyllideb y Cyngor.
“Mae hynny’n gadael 35% ar ôl ar gyfer popeth arall a wnawn – o archwilio tua 720 o fusnesau bwyd bob blwyddyn, i gasglu tua 73,000 o finiau a chynwysyddion ailgylchu o bron i 49,000 o gartrefi bob wythnos.
“Rydym hefyd yn cynnal safleoedd cefn gwlad fel Loggerheads, Moel Famau a Pharc Bodelwyddan; yn amddiffyn safleoedd treftadaeth fel Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd; yn darparu dros 12 miliwn o brydau ysgol yn flynyddol; yn cludo tua 2,870 o ddysgwyr i’r ysgol yn ddiogel; ac yn cynnal a chadw 11,763 o oleuadau stryd a 1,419 km o ffyrdd ar draws y sir.”
Bydd rhai pobl yn cael eu hamddiffyn rhag y cynnydd drwy gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n helpu’r rhai sydd ar incwm isel neu’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau. Gall trigolion ddysgu mwy am hyn ar wefan y sir ar y dudalen cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.
Mae’r Cabinet yn cyfarfod am 10am ddydd Mawrth, 10 Chwefror a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu drwy’r we-ddarllediad ar ein gwefan.