Chwefror 2026

29/01/2026

Tenantiaid yn symud i mewn i gartrefi newydd, ynni-effeithlon yn Ninbych

Mae tenantiaid bellach wedi symud i mewn i’w cartrefi newydd yn natblygiad Llwyn Eirin yn Ninbych, yn dilyn cwblhau 22 o dai cyngor modern ac ynni-effeithlon o ansawdd uchel.

Mae pob un o'r cartrefi wedi cael eu dyrannu'n llwyddiannus, gyda phwyslais cryf ar gefnogi pobl leol, gan helpu i sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu darparu ar gyfer cymunedau lleol.

Mae tenantiaid newydd wedi canmol y cartrefi a'r gefnogaeth a gawsant yn ystod y broses ddyrannu.

Dywedodd un preswylydd: “Mae’r swyddog tai wedi bod yn hynod gefnogol wrth ein helpu. Mae’r eiddo hyn yn anhygoel ac yn brydferth y tu mewn.”

Ychwanegodd un arall: “Diolch am ein cartref newydd. Byddwn ni’n elwa cymaint. Mae wedi bod yn werth yr aros ac wedi bod yn help mawr cael gwybod am beth oedd yn digwydd ar hyd yr amser hefyd.”

Mae digwyddiad cymunedol ar y gweill i roi cyfle i’r trigolion newydd gwrdd â’i gilydd a dechrau meithrin cysylltiadau.

Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus hynod ynni-effeithlon, gan ddarparu lefelau uchel o inswleiddio a defnydd ynni isel. Mae paneli solar ar doeau’r tai a phympiau gwres ffynhonnell ddaear wedi’u gosod, sy’n golygu nad oes angen cyflenwad nwy. Bydd hyn yn helpu i leihau biliau ynni cartrefi, lleihau allyriadau carbon a chefnogi ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Cafodd y datblygiad ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Tai Arloesol, gan alluogi Cyngor Sir Ddinbych i weithio gyda Creating Enterprise ar y dull cynaliadwy a modern hwn o adeiladu tai.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Mae’n wych gweld tenantiaid yn symud i mewn i’r cartrefi newydd hyn yn Llwyn Eirin. Mae’r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol, tra hefyd yn sicrhau bod y cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y tai ynni-effeithlon hyn yn helpu trigolion i gadw costau ynni i lawr ac yn cefnogi ein huchelgeisiau amgylcheddol ehangach.”

Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n parhau i ddarparu cartrefi cyngor newydd ledled y sir i ddiwallu anghenion lleol.

Comments