Chwefror 2026

29/01/2026

Sesiynau sgwrs a chwmni i’w cynnal ar y cyd â’r Pwyntiau Siarad

Bydd tair o lyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal cyfres o sesiynau 'Sgwrs a Chwmni' ar y cyd â’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad.

Bydd y sesiynau yma’n cael eu cynnig am ddim yn llyfrgelloedd Corwen, y Rhyl a Rhuthun drwy gydol mis Chwefror a Mawrth, ynghyd â sesiynau rheolaidd y Pwyntiau Siarad sy’n cael eu cynnal mewn gwahanol lyfrgell yn Sir Ddinbych bob dydd o’r wythnos. Mae’r sesiynau’n cael eu hwyluso gan Making Sense.

Yn ogystal â chynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad, bydd y sesiynau Pwyntiau Siarad arbennig yma’n cynnig cyfle i drigolion hel atgofion gyda’i gilydd ac yn darparu ‘bocsys atgofion’ i’w mwynhau.

Casgliad yw’r rhain o focsys a sachau atgofion, sy’n cynnwys eitemau y gall preswylwyr eu defnyddio i hel atgofion am y dyddiau a fu. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau yn bethau o’r 1950au.

Eitemau y bocsys atgofion (Lluniau gan, Making Sense)

Ynghyd â’r bocsys, bydd paned a chacen ar gael, a chyfle i greu gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau celf a chrefft.

Celf a chrefft (Lluniau gan, Making Sense)

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:

  • Llyfrgell y Rhyl – 10, 17 Chwefror a 10, 24 Mawrth.
  • Llyfrgell Corwen – 18, 25 Chwefror a 4, 11, 18 Mawrth.
  • Llyfrgell Rhuthun – 10, 17 Chwefror a 3, 10, 17 Mawrth.

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 10am a 12pm.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r sesiynau yma’n gyfle gwych i drigolion alw draw i’r llyfrgell, cael sgwrs, mwynhau paned o de a hel ambell i atgof am y gorffennol hefyd.

“Maen nhw’n greadigol ac yn llawn hwyl, ac rydw i’n gwybod y byddan nhw’n rhoi boddhad mawr i bawb sy’n cymryd rhan. Fe hoffwn i ddiolch i’r partneriaid sydd ynghlwm â nhw, gan gynnwys ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd, am gynnal y sesiynau a chreu cyfleoedd croesawgar i ddod â phobl yn ein cymunedau at ei gilydd i fwynhau.”

Comments