16/12/2025
Camau nesaf ar gyfer cynlluniau ailwampio mewn dwy ysgol yn Ninbych yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet
Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd heddiw (16 Rhagfyr) cymeradwyodd Gabinet Cyngor Sir Ddinbych argymhellion sy’n nodi’r camau nesaf ar gyfer rhaglen ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych a phrosiect ailwampio yn Ysgol Pendref.
Mae’r argymhellion a gymeradwywyd yn cynnwys ymrwymiad o arian cyfatebol tuag at y ddau brosiect, a chyflwyno Achosion Amlinellol Strategol i’w hystyried gan baneli buddsoddi Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ym misoedd cyntaf 2026.
Mae’r ddau brosiect yn ffurfio rhan o gynllun amlinellol y Cyngor ar gyfer Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Yn ystod y cyfarfod cymeradwyodd y Cabinet y gwaith o ddechrau ar y broses gaffael i benodi contractwr i arwain gwaith dylunio manwl ac adeiladu i ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych.
Ysgol Uwchradd Dinbych
Ym mis Medi 2025 gwnaed gwaith dichonoldeb i bennu dyluniad cysyniadol a hysbysu cwmpas amlinellol o’r gwaith i fynd i’r afael â phrif faterion y safle yn Ysgol Uwchradd Dinbych. Cafodd y cynllun gwaith arfaethedig sydd wedi’i ddatblygu o ganlyniad i waith dichonoldeb ei ddatblygu mewn ymgynghoriad ag Uwch Dîm Arwain yr ysgol.
Cyfanswm y swm a gytunwyd i gael ei ddyrannu i’r prosiect ar hyn o bryd ar gyfer prosiect Ysgol Uwchradd Dinbych yw £19.8 miliwn.
Fe sefydlwyd Ysgol Pendref yn 2012 ar ôl uno dwy ysgol gyfagos. Mae’r ysgol wedi gweithredu ers 2012 o ddau adeilad gwahanol ar un safle, a nod y prosiect newydd yma yw cyfuno’r holl ddysgu ac addysgu mewn i un adeilad.
Ysgol Pendref
Fe fydd y cynnig hefyd yn ceisio darpariaeth i ddarparu gofal plant, yn amodol ar gymeradwyaeth cynllun Grant Cyfalaf Gofal Plant ar wahân i Lywodraeth Cymru, a datblygu cyfleusterau cymunedol i gefnogi ardal Dinbych Uchaf.
Yn ystod haf 2025, cafodd Asiant Dylunio ac Adeiladu ei benodi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r prosiect Ysgol Pendref a rheoli’r gwaith o gaffael contractwr i arwain y gwaith dylunio ac adeiladu ar gyfer yr estyniad ac ailwampiad safle presennol. Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i symud ymlaen i’r broses gaffael ym mis Medi 2025.
Cyfanswm y swm a gytunwyd i gael ei ddyrannu i’r prosiect ar hyn o bryd ar gyfer prosiect Ysgol Pendref yw £13.2 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Rydw i’n falch o weld ein bod yn symud i’r camau nesaf gyda’r prosiectau yma gan fod y ddau Achos Amlinellol Strategol yn mynd i gael eu hystyried gan banel buddsoddi Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru fis nesaf. Rydym ni hefyd wedi cytuno i gymeradwyo’r arian cyfatebol angenrheidiol ar gyfer y ddau brosiect heddiw.
Mae prosiectau o’r maint yma’n mynd drwy sawl cam allweddol cyn i ni dorri tir newydd a chyn i’r gwaith allu dechrau ar y safleoedd.
Os caiff pob cam datblygu eu cymeradwyo ac os ceir caniatâd, fe fydd y prosiectau ailwampio yma’n moderneiddio ac yn gwella cyfleusterau a gallu’r ddwy ysgol a bydd yn arwain at effaith hirdymor cadarnhaol i genedlaethau o ddisgyblion yn Ninbych a’r dalgylch sy’n dymuno mynychu’r ysgolion yma yn y dyfodol.”