Rhagfyr 2025

08/12/2025

Gwahoddiad i landlordiaid Sir Ddinbych fynychu sioe deithiol yn Y Rhyl

(bwyty a bar 1891)

Bydd ‘Sioe Deithiol Landlordiaid’ Sir Ddinbych yn dychwelyd eleni gyda landlordiaid ledled y sir wedi’u gwahodd i fynychu.

Wedi'i anelu at landlordiaid sy'n berchen ar eiddo preswyl ac yn eu rhentu yn Sir Ddinbych, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y bwyty a bar 1891 ar 10 Rhagfyr o 5pm-8pm.

Yn sioe deithiol eleni, bydd diweddariadau gan Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (CCLP), Rentu’n Ddoeth Cymru, Fy Nghartref Sir Ddinbych (Shelter Cymru) a Chyngor Sir Dinbych.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac anogir landlordiaid o bob cwr o'r sir i fynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai a Chymunedau:

“Mae’n wych clywed bod y sioeau teithiol landlordiaid yn dychwelyd unwaith eto eleni. Bydd yn gyfle i’r cyngor roi’r wybodaeth ddiweddaraf i landlordiaid am eu cynlluniau ar gyfer tai yn y sir, yn ogystal â chlywed y wybodaeth ddiweddaraf gan rhanddeiliaid pwysig eraill.

“Ar ôl bod yno yn y gorffennol, rydw i wedi gweld sut mae’r digwyddiad hwn wedi creu lle diogel i landlordiaid leisio eu barn dra hefyd yn rhoi cyfle i landlordiaid rwydweithio gyda’i gilydd”.

Am fwy o wybodaeth am gynlluniau tai Cyngor Sir Dinbych ewch i'n gwefan.

Comments