08/12/2025
Nodyn atgoffa am newidiadau i gasgliadau gwastraff dros y Nadolig

Mae preswylwyr Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i fod yn ymwybodol o newidiadau dros dro i’w diwrnod casglu Gwastraff ac Ailgylchu yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Dros y gwyliau, mae’r newidiadau dros dro canlynol wedi’u gwneud i gasgliadau gwastraff y cartref:
- Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
- Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Iau, 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
- Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
Bydd y newidiadau dros dro canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff masnachol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:
- Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
- Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Iau 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
- Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd bydd y newidiadau dros dro canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff o’r ardd:
- Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
- Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
- Dydd Iau 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
- Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
Yn ystod y cyfnod hwn, gall preswylwyr drefnu i ymweld â’n parciau gwastraff ac ailgylchu. Mae manylion am yr hyn a dderbynnir yn ein parciau gwastraff ac ailgylchu ar gael ar wefan y Cyngor.
Byddwn ni’n dychwelyd i’r drefn arferol o ran casgliadau ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Caiff llawer o wastraff a deunydd ailgylchu eu creu dros gyfnod y Nadolig, a bydd ein timau gwastraff gwych wrth law i gasglu’r cyfan, boed hynny ar ddiwrnodau gwahanol neu’r diwrnodau arferol.
“Rhannwch y wybodaeth am y newidiadau dros dro ac ewch i dudalen Facebook y Cyngor lle mae llawer o wybodaeth ar gael am gasgliadau. Rydym ni eisiau diolch i’n preswylwyr am eu dealltwriaeth ynghylch y newidiadau hyn ac am eu cydweithrediad yn ystod cyfnod y Nadolig.”
Mae’r wybodaeth i gyd am gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar wefan y Cyngor hefyd.
Gall preswylwyr wirio sut i ailgylchu eitemau ar ganllaw ailgylchu A i Y y Cyngor ar-lein.