17/12/2025
Cyngherddau elusennol yn codi arian ar gyfer achosion lleol
Cynhaliwyd dau gyngerdd elusennol yn ddiweddar, wedi'u trefnu gan Swyddfa'r Cadeirydd, gan godi arian hanfodol ar gyfer elusennau dewisol y Cadeirydd.
Cynhaliwyd y cyngerdd cyntaf yng Nghadeirlan Llanelwy ddydd Gwener 21 Tachwedd. Roedd y noson yn cynnwys perfformiadau gan Matthew Budd, Kate Griffiths, Meibion Marchan a Chôr Rhuthun, gyda Geraint Owen ar y gitâr, yn cyflwyno rhaglen amrywiol o ganeuon poblogaidd. Daeth nifer dda i'r cyngerdd, gyda £3,252 wedi'i godi trwy werthiant tocynnau a rhoddion ar y noson.
Cynhaliwyd y cyngerdd carolau blynyddol ddydd Mercher 3 Rhagfyr yn Eglwys Sant Thomas yn y Rhyl. Ochr yn ochr â detholiad o garolau poblogaidd, mwynhaodd y gynulleidfa berfformiadau gan ddisgyblion talentog Ysgol Brynhyfryd, gyda Band Cyfuniad y Pedair Sir a Chôr NantClwyd hefyd yn cymryd rhan. Roedd y noson yn cynnwys sawl darlleniad a draddodwyd gan staff y Cyngor a chynghorwyr, yn ogystal â chyfraniadau gan Uned Cadetiaid Prestatyn. Casglwyd cyfanswm o £386.43 yn ystod y cyngerdd.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i Heather Powell a thîm Cerddoriaeth Cydweithredol Sir Ddinbych, a chwaraeodd ran allweddol unwaith eto wrth oruchwylio'r trefniadau cerddorol a'r cyfarwyddyd ar gyfer y noson.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor:
“Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a gefnogodd y ddau gyngerdd, o'r perfformwyr a'r trefnwyr i'r rhai a fynychodd ar y ddwy noson.
"Codwyd cyfanswm o £3,638.43, a fydd yn helpu i gefnogi fy elusennau dewisol ar gyfer eleni — Hosbis Sant Cyndeyrn ac Urdd Gobaith Cymru — gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl yn ein cymunedau lleol.”
Mae Hosbis Sant Cyndeyrn wedi'i lleoli yn ninas hardd Llanelwy ac mae'n darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol i gleifion â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Os hoffech ddysgu mwy am yr elusen hon, neu sut i gefnogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud, gallwch ymweld â'u gwefan.
Mae Urdd Gobaith Cymru yn Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed ac mae'n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i'w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Urdd Gobaith Cymru, gallwch ymweld â'u gwefan.