04/12/2025
Gwasanaethau hyblyg wedi’u pweru gan drydan yn cludo trigolion lleol dros filoedd o filltiroedd

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi gwneud sawl taith o amgylch y byd gan ddefnyddio dull cludiant mwy gwyrdd.
Mae cerbydau cludiant wedi’u pweru gan drydan sy’n gweithredu o amgylch Rhuthun a Dinbych wedi cyrraedd carreg filltir bwysig y mis hwn.
Lansiwyd gwasanaeth Fflecsi Rhuthun gan Drafnidiaeth Cymru a’r Cyngor yn 2022 gan ddechrau gyda bws mini 16-sedd di-allyriadau cyntaf y wlad a oedd yn rhedeg yn gyfan gwbl ar fatri, gyda chefnogaeth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae’r gwasanaeth cludiant sy’n seiliedig ar alw’n galluogi teithwyr i archebu eu cludiant hyd at awr o flaen llaw trwy un ai lawrlwytho a defnyddio ap Fflecsi, ar wefan fflecsi.cymru neu trwy ffonio canolfan alwadau ddynodedig. Yna gall yr ap hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw newidiadau yn yr amseroedd casglu.
Yn 2023, cafodd gwasanaeth fflecsi Dinbych ei ymestyn drwy waith gan Drafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd y cerbyd a ddyrannwyd ar gyfer hyn yn gerbyd trydan cwbl hygyrch â phedair sedd.
Ers dechrau gweithredu, mae bws mini trydan Rhuthun wedi gwneud bron i 74,000 o filltiroedd mwy gwyrdd i gefnogi trigolion lleol â’u bywydau bob dydd. Mae hynny’n oddeutu 88 taith o Ben Tir Cernyw i Benrhyn Cothnais.
Mae cerbyd trydan Dinbych hefyd wedi darparu oddeutu 52,000 milltir o gludiant mwy gwyrdd, sy’n gyfystyr ag oddeutu 610 o deithiau o Gaergybi dros y ffin i Gaer.
Ynghyd â’r ddau gerbyd trydan hyn sy’n gweithredu mewn ardaloedd gwledig, mae cyfanswm milltiroedd mwy gwyrdd yn y trefi cyfagos yn gyfystyr â phum taith o amgylch y byd.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein fflyd wedi gweithio’n galed i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau tanwydd ffosil i helpu i leihau ein hallyriadau carbon ar draws y sir.
“Nid yn unig mae’r cerbydau cludiant effeithiol hyn yn darparu llai o allyriadau ar y ffyrdd, maent wirioneddol wedi darparu cefnogaeth hyblyg i drigolion Rhuthun a Dinbych barhau â’u bywydau bob dydd o amgylch pob un o’r trefi a’r ardal gyfagos.
“Mae’n wych gweld pobl yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ac yn manteisio ar gludiant trydan, a byddwn yn annog unrhyw un sydd o bosibl yn ei chael hi’n anodd teithio o amgylch yr ardal i roi cynnig ar y gwasanaeth Fflecsi.”
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaeth Rhuthun yma:
https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/rhuthun
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaeth Dinbych yma:
https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/dinbych