12/12/2025
Y Cyngor yn croesawu pennod newydd ar gyfer sinema y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu cyfnod newydd cyffrous i fyd y sinema yn y Rhyl.
Bydd ffilmiau’n dechrau yn Sinema newydd y Strand yn y Rhyl o ddydd Gwener 19 Rhagfyr, ar ôl i brydles adeilad y sinema gael ei throsglwyddo’n swyddogol fis diwethaf gan y Cyngor i Merlin Cinemas.
Bydd ymgyrch recriwtio lwyddiannus ddiweddar yn golygu y bydd staff lleol o’r Rhyl, Prestatyn, Llanelwy a Dyserth yn barod i gwrdd a chroesawu cwsmeriaid.
Bydd Sinema’r Strand yn y Rhyl yn gweithredu ochr yn ochr â’i chwaer sinema ym Mhrestatyn, Sinema’r Scala, sydd eisoes yn rhan o grŵp Merlin Cinemas o sinemâu annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld y sinema’n ailagor o’r diwedd yn y Rhyl, diolch i waith caled Merlin Cinemas, gyda chefnogaeth ein swyddogion ein hunain i godi’r llen unwaith eto ar sgriniau’r adeilad.
“Mae hwn yn lleoliad mor bwysig i’r Rhyl, gyda hanes a thraddodiad cyfoethog a hir y dref gyda’r sinema, ac mae’n dilyn agoriad llwyddiannus Marchnad y Frenhines, sy’n atyniad arall i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn rhan bwysig o barhau â gwaith adfywio yn ein tref glan y môr.
“Rydym yn falch iawn hefyd fod gan Merlin yr hyder a’r weledigaeth i fuddsoddi yn y Rhyl, sydd wedi rhoi gymaint o hwb i gyflogaeth leol. Rwy’n dymuno’n dda iawn i bawb sy’n gweithio yn y sinema yn eu rolau. Byddwn i’n annog preswylwyr ac ymwelwyr i’r Rhyl i ddod i fwynhau’r sgrin fawr o ddydd Gwener yn y Strand, yn ogystal â chefnogi busnesau gwych eraill yn y dref er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.”

Sefydlwyd Sinemâu Merlin 35 mlynedd yn ôl gydag un sgrin yn nhref Penzance yng Nghernyw ac mae bellach yn gweithredu dros 20 o sinemâu ledled y DU. Mae’r cwmni’n adnabyddus am adfer ac achub lleoliadau hanesyddol a modern fel ei gilydd - mae Merlin wedi ymrwymo i sicrhau bod ymweliad â’r sinema yn fforddiadwy, yn hygyrch, ac yn hudolus i gymunedau lleol.
Cadwch lygad ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Merlin am y diweddaraf am agoriad y Strand merlincinemas.co.uk