Rhagfyr 2025

01/12/2025

Rhywogaethau coed prin y DU yn cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych

Mae coeden sy’n brin yn y DU wedi cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych o ganlyniad i’n prosiect pedair blynedd o hyd i helpu i ddiogelu’r rhywogaethau.

Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cadarnhau drwy brofion geneteg eu bod wedi llwyddo i dyfu coed yr Aethnen Ddu o hadau.

Fe wnaed gwaith ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor ger Llanelwy sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Fe ddefnyddir ymagwedd tarddiad lleol i ddarparu hadau i’w tyfu yn Llanelwy hyd nes bod y coed yn barod i gael eu plannu ar dir lleol. Roedd y gwaith a wnaed yn cynnwys cymysgedd o gadw a hybu rhywogaethau coed craidd fel y dderwen tra hefyd rhoi cefnogaeth i gadw coed mwy prin fel y gerddinen a nawr, gyda chanlyniadau cyffrous - yr Aethnen Ddu.

Mae’r Aethnen Ddu, er yn brin iawn yn Sir Ddinbych, yn frodorol i ecoleg glannau afonydd a gorlifdiroedd y sir.  Gellir eu gweld wedi eu gwasgaru ar hyd Dyffryn Clwyd, a gellir eu hadnabod o’u rhisgl tywyll llawn holltau, boncyffion sy’n gwyro a changhennau sy’n troi tuag i lawr.

Mae coed aeddfed yn tyfu i 30 medr a gallant fyw am 200 mlynedd. Maent yn ddeuoecaidd sy’n golygu fod yna goed gwrywaidd a benywaidd ar wahân.

Credir fod yr Aethnen Ddu wedi lleihau o ran nifer o ganlyniad i golli cynefin yn sgil draenio a sianelu glannau afonydd, tynnu coed benywaidd a’u hadau gwlanog “diolwg” a gostyngiad yn y galw am eu coed gan fod aethnenni hybrid sy’n tyfu’n gynt wedi eu cyflwyno.  Ganrifoedd yn ôl roedd pren yr Aethnen Ddu yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau a chynnyrch amrywiol (mae pren yr aethnen yn gallu gwrthsefyll gwres ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer blociau brêc wagenni) hyd nes y trodd y diwydiant adeiladu at goed anfrodorol a lleihaodd y diddordeb yn yr aethnen ddu.

Fe weithiodd y Tîm Bioamrywiaeth i beillio o’r coed gwrywaidd oedd wedi goroesi mewn un lleoliad yn Sir Ddinbych gyda choeden fenywaidd mewn rhan arall o’r sir a choeden wrywaidd arall hefyd ar draws y ffin yng Nghonwy.

Eglurodd Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r prosiect wedi bod ar y gweill ers pedair blynedd, o ymchwilio i leoliad coed Aethnen Ddu addas i’r broses mae’r tîm wedi ei rhoi mewn grym yn y blanhigfa goed i dyfu mwy o’r coed prin.”

“Rydym yn hynod gyffrous ein bod wedi tyfu’r aethnen ddu sy’n gwbl frodorol o had ac yn bwysicach fyth mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym i wneud hyn wedi gweithio fel yr oeddem yn ei obeithio.

“Roedd y fethodoleg yn gweithio drwy gynnal peillio a reolwyd rhwng coed gwrywaidd a choed benywaidd dethol. Mae hyn wedi cynhyrchu Aethnen Ddu frodorol hyfyw ac mae hynny’n newyddion da iawn i ni ac i’r rhywogaethau.”

Eglurodd Liam fod y canlyniadau wedi eu hanfon at Labordy Geneteg Coedwigoedd Forest Research a gynhaliodd brawf olion bysedd DNA i benderfynu a oedd y gwaith yn llwyddiannus. Daeth y canlyniadau yn ôl yn gadarnhaol i’r holl goed a oedd wedi eu dewis ar hap, gyda’r canlyniadau’n dangos y cyfraniad geneteg priodol gan y fam a’r tad a ddisgwyliwyd. 

Dywedodd: “Mae mwyafrif lledaeniad yr aethnen ddu mewn hanes diweddar wedi bod trwy gymryd toriadau o lystyfiant, gan olygu yr un unigolyn ac felly caiff yr eneteg ei chopïo sawl tro.

“Mae’r ffaith ein bod wedi tyfu’r Aethnen Ddu o had yn hyfryd gan ei fod yn cyflwyno cyfuniadau geneteg newydd ac felly mwy o wytnwch i genhedlaeth nesaf yr Aethnen Ddu.”

Cam nesaf Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn y gwaith parhaus i amddiffyn yr Aethnen Ddu fydd i gydweithio gyda grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y goeden brin ac eiconig hon.

Ychwanegodd Liam: “Allwn ni ddim parhau i fynd yn ôl at yr un goeden fenywaidd gan y gallai arwain at broblemau geneteg yn y pen draw, gan y byddai’r holl eginblanhigion yn frodyr neu’n chwiorydd gyda’r un fam. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cychwyn sgyrsiau gyda grwpiau lleol eraill sy’n gwybod am goed Aethnen Ddu benywaidd eraill, rhannu ein methodoleg a symud ymlaen o hynny a lledaenu’r genynnau sydd gennym ni yma yn y coed brodorol rydym wedi eu tyfu.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn falch iawn o’n tîm Bioamrywiaeth am roi bywyd newydd i’r prosiect hwn i hybu rhywogaethau’r Aethnen Ddu yn y sir. Mae’n brin ar hyd a lled y DU a bydd ymdrechion gwych y tîm yn rhoi cyfle i’r goeden ffynnu unwaith eto yn Sir Ddinbych.”

 

 

 

Comments