03/12/2025
Sir Ddinbych yn Gweithio yn hyrwyddo cynhwysiant
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl drwy hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd.
Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer trigolion ag anableddau, gan eu helpu i feithrin hyder, ennill sgiliau, a chael mynediad at gyfleoedd sy’n addas i’w hanghenion. Trwy fentora, gwirfoddoli a hyfforddiant ymarferol, mae’r gwasanaeth yn grymuso pobl i gyflawni eu nodau gyrfa.
Un enghraifft yw Dru, cyfranogwr a rannodd ei phrofiadau o fyw ag awtistiaeth ac anabledd gweledol. Trwy Sir Ddinbych yn Gweithio, llwyddodd i sicrhau ei rôl freuddwydiol ym maes weldio gyda Kwikweld. Rhoddodd y cyfle hwn hwb i'w hyder a'u galluogi i weithio mewn ffordd sy'n addas i'w hanghenion.
“Roeddwn i wedi cael fy niystyru fel risg yn y gweithle,” meddai Dru. “Pan gysylltais i â Sir Ddinbych yn Gweithio, fe wnaethon nhw fy helpu i fynd o gwmpas hynny. Mae [fy swydd] yn rhan o’m trefn nawr … mae’n golygu popeth.”
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i wneud cynhwysiant yn ganolog i bopeth y mae’n ei gynnig. Trwy Gynllun Cyfweliad Gwarantedig Hyderus o ran Anabledd y Cyngor, mae ymgeiswyr ag anableddau, a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol, yn cael cyfweliad yn awtomatig. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cydweithio â Hybwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru i gryfhau eu strategaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol ar gyfer Twf Economaidd a Thaclo Tlodi:
“Mae cynhwysiant wrth wraidd ein dull ni. Trwy bartneru â Hybwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru ac ymgorffori’r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig Hyderus o ran Anabledd, rydym yn sicrhau bod recriwtio nid yn unig yn cydymffurfio ond yn wirioneddol gynhwysol. Ein nod yw creu cyfleoedd lle gall pawb gyfrannu eu sgiliau a’u doniau.”
Dywedodd Gareth Foulkes, Hyrwyddwr Anabledd Llywodraeth Cymru:
“Mae cyflogwyr yn aml yn wynebu heriau wrth ganfod staff medrus, ac mae gan bobl anabl gyfoeth o dalent i’w gynnig. Mae llawer yn dyheu am weithio a chyfrannu i’r gymdeithas fel unrhyw un arall, ac mae cynhwysiant yn gyfrifoldeb a rennir gennym ni i gyd. Rwy’n falch iawn o gydweithio â Sir Ddinbych yn Gweithio ar y mater pwysig hwn ac o helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl anabl. Gadewch i ni fynd ati!”
Mae’r diwrnod rhyngwladol yn atgyfnerthu mai ymrwymiad parhaus yw cynhwysiant. Nod y gwasanaeth yw adeiladu cymuned lle mae pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt a chyfrannu at y gweithlu ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Mae'r gwaith hwn hefyd yn rhan o'r fenter ‘Trailblazer’, sy'n canolbwyntio ar ddulliau arloesol i gael gwared ar rwystrau i gyflogaeth a hyrwyddo cynhwysiant i bawb.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau cynhwysol neu gyfleoedd cyflogaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 / 07342 070635 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio: www.sirddinbych.gov.uk/sir-ddinbych-yn-gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Raglen Cymunedau am Waith Plus Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn yr rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.