Rhagfyr 2025

12/12/2025

Camwch yn ôl mewn Amser yn Nigwyddiad Nadoligaidd Nadolig trwy’r Oesoedd Nantclwyd y Dre

Unwaith eto eleni, bydd yr atyniad treftadaeth arbennig yn dod yn fyw gyda hud y Nadolig ym mis Rhagfyr, wrth i’r tŷ a’r gerddi hanesyddol barhau i gynnal ei ddigwyddiad ‘Nadolig trwy’r Oesoedd’ poblogaidd, ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Rhagfyr.

Estynnir gwahoddiad i ymwelwyr ddarganfod hanes y Nadolig wrth iddynt ymlwybro drwy fwy na 500 mlynedd o hanes, gan archwilio sut y mae traddodiadau Nadoligaidd wedi esblygu o’r Canol Oesoedd i’r Ail Ryfel Byd, a hynny oll dan un to sydd wedi’i addurno’n hyfryd.

Bydd pob ystafell yn y tŷ hanesyddol nodedig hwn yn cael eu trawsnewid i gynrychioli cyfnod gwahanol, o wyrddni a dramâu gyda mudactorion Nadolig Canol Oesol i loddestau Jacobeaidd moethus, gwychder dathliadau Sioraidd a hud traddodiadau Fictoraidd sydd wedi siapio’r Nadolig sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Bydd modd i ymwelwyr hefyd ddarganfod disgleirdeb y Nadolig Edwardaidd, gyda goleuadau trydan a chalendrau Adfent cynnar ac ysbryd gwydn “clytio a thrwsio” y dathliadau yn ystod cyfnod y Rhyfel.

Mae Nantclwyd y Dre’n dyddio'n ôl i 1435, ac mae’n un o dai tref ffrâm bren hynaf Cymru, sy’n cynnig cipolwg unigryw ar fywyd teuluol ar hyd y canrifoedd trwy lwybrau a gweithgareddau diddorol a rhyngweithiol, sydd wedi’u cynllunio i ddod â hanes yn fyw i ymwelwyr o bob oed.  

Mae ‘Nadolig trwy’r Oesoedd’ yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr brofi’r adeilad ar ei fwyaf atmosfferig, gyda cherddoriaeth, straeon ac addurniadau go iawn, sy’n dod â phum canrif o ddathliadau’r Nadolig yn fyw.

Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre:

“Nadolig trwy’r Oesoedd’ yw un o'n digwyddiadau blynyddol mwyaf poblogaidd ac mae'n ffordd wych i ymwelwyr ddarganfod sut y dechreuodd sawl traddodiad Nadoligaidd, yn ogystal â mwynhau’r tŷ ar adeg mor hyfryd o’r flwyddyn.

“Mae Nantclwyd y Dre bob amser wedi bod yn le i deuluoedd ac rydym yn gobeithio na fydd pethau’n wahanol y tymor hwn ac y bydd ymwelwyr yn treulio amser cofiadwy gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, gan archwilio hanes y Nadolig gyda’i gilydd.

“Eleni, rydym wedi bod yn hynod ffodus i dderbyn nawdd ar gyfer coeden Nadolig newydd, diolch i gwmni lleol B&W Builders and Decorators a fydd yn ganolbwynt i’r arddangosfa y flwyddyn hon ac am flynyddoedd i ddod”. 

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae Nantclwyd y Dre yn ddarn unigryw o hanes Cymru ac mae’n cynnig cyfle i ymwelwyr archwilio mwy na 500 mlynedd o hanes o dan un to. Bydd y digwyddiadau ‘Nadolig trwy’r Oesoedd’ yn cynnig ffordd wahanol i deuluoedd brofi’r tŷ hanesyddol”.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 

Comments