17/12/2025
Mae nythfa adar sydd wedi ei lleoli yn Sir Ddinbych yn parhau i helpu môr-wenoliaid bach

Delwedd gan David Woodfall
Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu un mlynedd ar hugain o gefnogi ymwelydd haf prin.
Mae eleni yn nodi un mlynedd ar hugain ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli’r nythfa fôr-wenoliaid bach yn Nhwyni Gronant.
Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu tuag at dros 10% o gyfanswm poblogaeth fridio y DU, ac mae’n cefnogi nythfeydd eraill.
Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr. Maent yn dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst.
Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, ac maent yn pysgota amdanynt ar y môr.
Codwyd deuddeg o gorlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.
Gosodwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Fodd bynnag gallai’r cyhoedd alw heibio canolfan wylio dros dro a chuddfan adar i ddod i wybod mwy a gweld yr adar o bell.
Helpodd tîm o wardeiniaid ar y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogiaid tramor yn bennaf, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i Gronant bob blwyddyn.
Y tymor hwn cofnodwyd 95 o barau bridio a chyfanswm o 103 o adar ifanc, gostyngiad ar nifer yr ifanc a welwyd yn ystod tymor 2024 o ganlyniad i ffactorau gan gynnwys ysglyfaethu, y tywydd sych garw a chollwyd nifer fechan y tu allan i’r corlannau o ganlyniad i lanw’r gwanwyn ac ysglyfaethwyr eraill.
Fodd bynnag cafwyd 1.08 o adar ifanc i bob pâr bridio a oedd yn gynnydd bach o’i gymharu â ffigyrau’r llynedd.
Gweithiodd y wardeiniaid hefyd gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain i fodrwyo nifer o’r adar er mwyn eu holrhain yn y dyfodol. Fe aethant ati i helpu i fodrwyo 59 o gywion gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (modrwyau metel a chafodd naw arall eu modrwyo gyda modrwyau lliw).
Croesawodd canolfan ymwelwyr y Môr-wenoliaid bach 883 o ymwelwyr i’r mannau gwylio dynodedig ac ymgysylltodd 175 o bobl â’r prosiect drwy deithiau ac ymweliadau â’r safle. Bu gwirfoddolwyr Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Modrwyo Glannau Mersi yn gweithio am gyfanswm o 1085.5 awr trwy gydol y tymor.
Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.
Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Rhandiroedd Sirol: “Rydym yn falch o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn am dros 20 mlynedd sy’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y nythfa yn parhau i fod yn uwch nac unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi bod yn wych unwaith eto i weld ysgolion lleol a grŵp preswyl yn ymweld â’r nythfa. Mae hefyd yn cyfrannu at gynnig twristiaeth y Cyngor, gyda gwylwyr adar yn heidio yma o bob cwr o’r DU.
“Mae wedi bod yn dymor anodd i’r adar wrth i ni weld llai o oedolion yn dod i’r nythfa, a hefyd ni fu unrhyw gynnydd mewn oedolion yn unrhyw rai o’r nythfeydd Gwyddelig a dim yn y Parlwr Du. Fodd bynnag er gwaetha’r anawsterau a wynebir, mae’n wych i weld y nifer cyfartalog o adar ifanc fesul pâr bridio yn cynyddu i barhau i gefnogi’r rhywogaeth bwysig hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n rhaid canmol gwaith caled ein timau cefn gwlad, y grwpiau partner a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud cymaint i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych.”