09/12/2025
Lansio prosiect peilot solar ar gyfer bysiau mini’r Cyngor


Mae prosiect peilot wedi’i lansio i dreialu ffordd fwy gwyrdd o amddiffyn y ffordd mae cerbydau fflyd Sir Ddinbych yn rhedeg.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn treialu pecynnau solar ar dri o’i fysiau mini trydan i helpu i ymestyn oes y batri.
Y cerbydau sy’n cymryd rhan yn y peilot yw dau gerbyd trydan cludo pobl sef y Toyota Proace Verso, yn lle cerbydau tebyg oedd yn defnyddio tanwydd ffosil oedd yn dod i ddiwedd eu hoes. Gwnaed hyn gyda chefnogaeth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae ganddynt ystod o hyd at 214 milltir a bydd yn gostwng costau cynnal a chadw a chostau teithio i’r fflyd yn y dyfodol. Defnyddir y bysiau mini fel cludiant i ysgolion lleol a chludiant gofal cymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor un o’r ffigyrau uchaf yng Nghymru ar gyfer y gyfran o gerbydau heb allyriadau (ZEVs) fel canran o’u fflyd, ar dros 20 y cant.
Mae staff cynnal a chadw wedi gosod y tri phecyn solar ar y cerbydau a bydd swyddogion yn monitro effaith y prosiect ar effeithlonrwydd y batris ategol. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ar gyfer y prosiect hwn.
Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd: “Rydym wedi cynnal y prosiect peilot hwn gyda’r cerbydau hyn gan mai nhw sydd yn y perygl mwyaf o redeg allan o fatri ategol gan eu bod yn cael eu defnyddio mor aml. Er enghraifft, y tu allan i’r tymor ysgol, ni fyddant mor debygol o gael eu defnyddio ac mae’n debyg y bydd pŵer y batri’n gostwng.
“Bwriad y treial hwn yw gweld os gellir defnyddio ynni’r haul i roi ynni ychwanegol parhaus i’r batris ategol i ymestyn eu hoes fel eu bod wedi’u gwefru’n llawn pan fydd eu hangen.
“Mae defnyddio solar hefyd yn cyd-fynd â’n dyhead parhaus o leihau ôl troed carbon ein gwasanaeth fflyd.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy gael cerbydau mwy gwyrdd yn lle ein cerbydau tanwydd ffosil diwedd oes pan fo hynny’n briodol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.
“Mae ein gwasanaeth fflyd hefyd wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd arloesol megis y prosiect peilot hwn i ymdrechu i leihau ein hallyriadau carbon ymhellach.”