Rhagfyr 2025

16/12/2025

Y Cabinet yn cytuno ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych

(Neuadd y Sir)

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu’r Cynlluniau Creu Lleoedd terfynol ar gyfer Corwen a Dinbych.

Yn y cyfarfod heddiw (16 Rhagfyr), ystyriodd yr aelodau’r cynlluniau a’u cymeradwyo. Mae’r cynlluniau’r gosod gweledigaeth glir ar gyfer adfywio canol trefi, gwella mannau cyhoeddus a chreu lleoedd ffyniannus, cynaliadwy i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried.  Yn unol â Siarter Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru, mae’r cynlluniau’n croesawu pob un o’ch chwe egwyddor: symudiad, defnydd cymysg, parth cyhoeddus, hunaniaeth, cydweithio ac iechyd a lles.

Gyda chefnogaeth gan gyllid o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, comisiynwyd Urbanists gan Gyngor Sir Ddinbych ym mis Ionawr 2024 i helpu i lunio Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych, oedd yn golygu adolygu a deall data penodol am y trefi drwy ddadansoddiad masnachol, ymgysylltu â budd-ddeiliaid a rhoi gweithgareddau allweddol ar waith.

Lluniwyd y cynnig drwy ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned a chynhaliwyd sesiynau galw heibio yn llyfrgelloedd Dinbych a Chorwen yn gynharach eleni i gasglu barn ac adborth pobl leol am y strategaethau drafft.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, ac mae eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol.

“Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn adnodd annatod yng Nghymru, i sicrhau bod arfer gorau’n cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu lleoedd yn y dyfodol a’u bod yn cysylltu’n agos â pholisïau ac arferion allweddol yng Nghymru.  Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn enghraifft o ymrwymiad y Cyngor i’r polisïau hyn ac i ddatblygu ein trefi yn y dyfodol.” 

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r ddau gyngor tref sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu’r cynlluniau yma”.

Comments