16/12/2025
Y Cabinet yn cymeradwyo cam nesaf y prosiect ysguboriau halen

Mae Cabinet Cyngor Sir Dinbych wedi cytuno ar y camau nesaf i lansio prosiect gwydnwch y gaeaf pwysig.
Gwnaeth aelodau'r cabinet drafod prosiect Ysguboriau Halen y Gogledd yr wythnos hon. Gwnaethon nhw gymeradwyo proses dendro a chaffael y prosiect er mwyn datblygu adeilad newydd i hwyluso’r gwaith o storio halen yn ddiogel ac yn gywir at ddibenion gweithrediadau cynnal a chadw’r gaeaf sy'n gwasanaethu gogledd y sir.
Ym mis Medi, gwnaeth y Cabinet gymeradwyo costau o £2,806,968.84 i ddod â’r prosiect hwn ym Modelwyddan yn fyw.
Mae'r safle ym Modelwyddan yn gweithredu gwasanaeth cynnal a chadw’r gaeaf ar gyfer gogledd y sir ac mae wedi'i leoli'n strategol i gwmpasu trefi arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yn ogystal ag ardaloedd mwy gwledig gogledd y sir.
Yn bwysicach fyth, mae lleoliad y depo i’r A55 yn hanfodol o ran darpariaeth cynnal a chadw’r gaeaf er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
O ganlyniad i’w bwysigrwydd, mae angen diweddaru a moderneiddio cyfleusterau storio halen y safle i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol ac unrhyw risgiau posibl yn y dyfodol i wydnwch gweithrediadau’r gwasanaeth yn ystod y gaeaf.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol drwy ddarparu cyfleusterau storio halen priodol ac addas at y diben.
“Bydd y datblygiad arfaethedig yn sicrhau amgylchedd gwaith mwy effeithlon a diogel i’r staff, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â safonau amgylcheddol a mwy o wydnwch ar gyfer cynnal a chadw yn ystod y gaeaf a darparu gwasanaethau yn ystod tywydd garw o’r safle pwysig hwn.”