Rhagfyr 2025

18/12/2025

Disgyblion Rhuddlan yn helpu i osod blychau i Ystlumod ac Adar yn rhan o brosiect ehangach yn Ysgol y Castell

Cafodd disgyblion yn Ysgol y Castell gyfle i gael golwg agos ar nyth adar go iawn a dysgu am bwysigrwydd blychau adar ac ystlumod.

Fe arweiniodd Andrew Cutts, Swyddog Cydymffurfiaeth a  Chefnogi Ecoleg Sir Ddinbych sesiwn yn ardal ysgol goedwig ar y safle, lle bu disgyblion yn dysgu sut i ddewis lle da i osod blychau adar ac ystlumod. 

Yna bu’r disgyblion yn helpu i ddewis coed addas yn ardal yr ysgol goedwig er mwyn i BrynBuild, contractwr y prosiect, osod y blychau.

Cafodd pump blwch adar a thri blwch ystlumod eu hadeiladu a’u gosod yn rhan o’r Buddion Cymunedol sy’n gysylltiedig â’r pedair ystafell ddosbarth sy’n cael eu hymestyn ar y safle ar hyn o bryd. 

Cam cyntaf y prosiect yw ymestyn y pedair ystafell ddosbarth a’r gwaith gwella ynni dechreuol, ac mae gwaith lleihau ynni pellach wedi’i gynllunio ar gyfer yr ail gam.

Mae cam cyntaf y prosiect wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Mae’r wal allanol ar gyfer y 2 ystafell ddosbarth gyntaf i gael eu hymestyn wedi cael ei symud, ac mae’r sylfeini a thrawst llawr bron â chael eu cwblhau. Mae’r gwaith o ddiweddaru goleuadau LED ar draws y safle yn mynd rhagddo’n dda ac mae’r gwaith o osod ffrâm ddur ac is-strwythur fod i ddechrau’n fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Yn rhan o sgôp ehangach y prosiect yma, fe ddysgodd y disgyblion yn Ysgol y Castell am bwysigrwydd natur ar dir yr ysgol.

Mae’r prosiect yn golygu y bydd nifer o flychau ystlumod ac adar yn cael eu gosod, ochr yn ochr â’r estyniad, sydd yn mynd rhagddo’n dda.”

Comments