18/12/2025
Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cael trwyddedau parcio yn rhan o becyn maethu
Mae gofalwyr maeth sydd yn penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol bellach yn cael trwydded barcio yn rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Er mwyn cynorthwyo gofalwyr maeth i barcio ar gyfer apwyntiadau a chyfarfodydd maethu pwysig, ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, mae gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych bellach yn cael trwyddedau parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir yn y Sir, unwaith y maent wedi’u derbyn ar gynllun Maethu Cymru.
Mae’r fenter hon yn rhan o raglen drawsnewid y Cyngor sydd â’r uchelgais o gynyddu’r nifer o ofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych, gan alluogi i blant gael gofal yn nes at eu cymunedau a chael canlyniadau gwell.
Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:
“Rydw i’n falch gweld bod hyn wedi cael ei weithredu. Dim ond un o’r polisïau cynorthwyol y byddwn ni’n eu cyflwyno i bobl sy’n penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol ydi hwn, bydd mwy’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Dwi’n teimlo bod y polisi yma’n pwysleisio ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniad gwerth chweil i faethu yn Sir Ddinbych.
Fe hoffwn i hefyd ddiolch i fy nghydweithwyr yn yr adran Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad am eu cefnogaeth yn gweithredu’r cynllun yma, ac am ddangos eu cefnogaeth i ofalwyr maeth Sir Ddinbych yn rhan o’n hethos Un Cyngor."
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae tîm Maethu Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn y Sir.
Mae’r staff cyfeillgar yn helpu i arwain gofalwyr maeth newydd drwy bob cam o’r broses ac maent bob amser yn barod i roi cyngor arbenigol.
Gobeithio drwy gyflwyno’r trwyddedau yma, y gallwn helpu ein gofalwyr maeth i fynychu apwyntiadau a chyfarfodydd pwysig sy’n dod yn rhan o faethu ac yn gwneud eu bywydau ychydig bach yn haws.”