Rhagfyr 2025

05/12/2025

Clodfori gwirfoddolwyr am feithrin natur mewn planhigfa goed

Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych wedi eu cydnabod am eu brwdfrydedd a’u hangerdd dros gefnogi prosiect i roi bywyd yn ôl i fyd natur.

Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, diwrnod i ddathlu a diolch i bobl o amgylch y byd sy’n rhoi eu hamser prin a’u hymdrechion i wasanaeth gwirfoddol.

Draw ym mhlanhigfa goed leol y Cyngor yn Llanelwy, mae gwirfoddolwyr wedi creu cymuned sydd wedi camu ymlaen i gefnogi gyda’u dwylo eu hunain sawl prosiect tyfu coed a blodau gwyllt.

Caiff Planhigfa Goed y Cyngor ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Drwy eu diddordeb a’u hangerdd dros helpu natur a gan ddysgu sgiliau gan y tîm yn y blanhigfa goed, mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i ddod â bywyd newydd i’r Gerddinen.  Yn draddodiadol roedd ffrwythau o’r goeden hon hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y DU.

Eleni maent hefyd wedi helpu tîm y blanhigfa goed i gynhyrchu dros 1,000 o goed ysgaw o ysgawen yn tyfu ar y safle drwy doriadau ac fe aethant ati i feithrin dros 1,800 o goed llwyfen lydanddail sydd nawr wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd ym Mharc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu atgyfodiad y goeden yn Sir Ddinbych.

Dywedodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed:  “Rwyf wir yn edrych ymlaen at pan ddaw’r gwirfoddolwyr draw i’r safle. Mae’n wych i weithio gyda nhw, eu helpu i ddysgu sgiliau newydd gan fod eu hangerdd dros helpu natur yn anhygoel.

“Maent wedi creu cymuned fach hyfryd yma yn y blanhigfa goed ac maent wir wedi ein helpu ni i greu gwahaniaeth cadarnhaol ar gyfer ein natur leol drwy eu brwdfrydedd tra maent ar y safle gyda ni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwyf wastad yn falch o weld yr angerdd a’r ymroddiad sydd gan ein gwirfoddolwyr yn y blanhigfa goed a’r modd maent yn rhoi eu hamser gan wenu sydd wedi creu cymuned hyfryd ar y safle. 

“Mae ein holl swyddogion sy’n gweithio ar y prosiect hwn wir yn gwerthfawrogi’r ymroddiad maent yn ei roi a’r gefnogaeth maent yn ei darparu ac maent yn mwynhau cwmni’r gwirfoddolwyr. Rwy’n gobeithio eu bod wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd gyda’n tîm a’u bod yn parhau i fwynhau bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn ar gyfer natur leol yn Sir Ddinbych.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn biodiversity@denbighshire.gov.uk

 

Comments