Rhagfyr 2025

10/12/2025

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu pobl i ddechrau gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol

Mae gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol yn bwysig gan eu bod yn rhoi cymorth hanfodol i unigolion ac yn gwella ansawdd bywyd, yn ogystal â chyfrannu at les cyffredinol cymdeithas. Mae’r rolau hyn yn hollbwysig ar gyfer cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed, megis yr henoed, pobl anabl a phlant, gan helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a’u cysylltiadau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gwneud y gyrfaoedd hyn yn fwy hygyrch i’r rhai sy’n ystyried llwybr i mewn i’r diwydiant.

Gofal cymdeithasol yw asgwrn cefn ein cymunedau, gan ddarparu cymorth hanfodol i’r rhai sydd ei angen fwyaf. I lawer sy’n ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, gall y camau cyntaf ymddangos yn frawychus. Dyma lle mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn camu i mewn, gan weithio ar y cyd â gwasanaethau gofal a chymorth mewnol y Cyngor.

Mae’r tîm yn deall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, boed hynny’n ymwneud ag aflwyddiant gwaith, cydbwyso cyfrifoldebau gofalu, neu fyw gyda chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cymorth ymarferol a phersonol i helpu unigolion gymryd eu camau cyntaf i’r sector gofal cymdeithasol. O hyfforddiant a gweithdai i brofiadau gwaith ymarferol, maent yn galluogi pobl i feithrin hyder, ennill sgiliau, a dechrau gyrfa werth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae taith Chwaer Anna Lydia yn dangos sut mae hyn yn gweithio. Mynachwraig genhadol o Wganda, daeth i’r DU ar nawdd ac roedd am roi rhywbeth yn ôl yn lleol. Gyda brwdfrydedd cryf dros gefnogi’r gymuned, gofal cymdeithasol a gwaith elusennol, roedd Chwaer Anna Lydia’n benderfynol o wneud gwahaniaeth. Gyda chefnogaeth mentoriaid yn Sir Ddinbych yn Gweithio, mynychodd weithdy gofal cymdeithasol a chwblhau’r cwrs tridiau ‘Cyflwyniad i Ofal’, gan feithrin yr hyder a’r sgiliau oedd eu hangen arni.

Chwaer Anna Lydia

Dechreuodd ei thaith gyda lleoliad gwaith taledig WorkStart yng Nghartref Gofal Dolwen, rhan o gyfleuster gofal preswyl y Cyngor, tra hefyd yn gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Ymyl Gofal – prosiect sy’n helpu i leihau unigrwydd ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol drwy ymweliadau wyneb yn wyneb, cefnogaeth dros y ffôn a mynychu grwpiau cymdeithasol.

Mae ymrwymiad Chwaer Anna Lydia wedi cael ei gydnabod, ac mae bellach wedi cael cynnig rôl cyflenwi i barhau i wneud gwahaniaeth ar ôl, i’w lleoliad ddod i ben, a meddai:

“Mae fy swydd yn rhoi ystyr i'm cenhadaeth a'm pwrpas. Mae'r hyfforddiant rwyf wedi'i dderbyn drwy Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod o gymorth mawr. Adref, nid oes gennym system gofal sefydledig, felly rwyf wedi dysgu cymaint. Rwyf newydd orffen cwrs a oedd o gymorth mawr ac ar ôl ei gwblhau, fe’i gweithredais ar unwaith yn fy ngwaith.”

Dywedodd Fiona Thomas, Swyddog Lleoliadau ar gyfer y Cynllun WorkStart:

“Mae straeon fel un Chwaer Anna Lydia yn dangos pam mae dull Sir Ddinbych yn Gweithio yn llwyddo. Drwy gynnig hyfforddiant, mentora a phrofiad gwaith go iawn, maent yn helpu pobl i droi uchelgais yn gyfle, gan gryfhau’r sector gofal gyda phobl ymroddedig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn parhau i newid bywydau drwy agor drysau i yrfaoedd ystyrlon ym maes gofal cymdeithasol. Mae straeon fel un Chwaer Anna Lydia yn ein hatgoffa pa mor bwerus y gall cymorth cywir fod pan fo rhywun yn barod i gymryd y cam cyntaf. Mae’r rhaglen nid yn unig yn grymuso unigolion, ond hefyd yn cryfhau ein cymunedau drwy helpu pobl ymroddedig i mewn i rolau lle gallant wneud gwir wahaniaeth.”

Trwy rannu adnoddau ac ymrwymiad i gynhwysiant, mae Sir Ddinbych yn Gweithio a Chyngor Sir Ddinbych yn cefnogi unigolion i sicrhau gyrfaoedd cynaliadwy tra hefyd yn cryfhau gwasanaethau lleol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r rhai mwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Comments