08/12/2025
Gwobrau’n cael eu cyflwyno i ffotograffwyr natur ifanc


Cafodd ffotograffwyr ifanc gyflwyniad arbennig yn yr ysgol ar ôl ennill Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt 2025 Cyngor Sir Ddinbych.
Gofynnwyd i ddisgyblion Sir Ddinbych fynd ati i dynnu ffotograff ar un o ddolydd blodau gwyllt y sir, dôl ysgol neu safle gwarchodfa natur gymunedol. Gallai fod yn llun o'r safle cyfan neu o ddarn bychan bach ohono, fel pryfyn neu flodyn – beth bynnag sy'n gwneud y llun gorau.
Yr enillwyr oedd Elis o Ysgol Esgob Morgan, a dynnodd lun o Gardwenynen Gyffredin ar ysgall yng Nghysgodfa, Dinbych, a Wynter ym Mlwyddyn 5 yn Ysgol Bryn Hedydd, a dynnodd lun yn dangos Cacynen Cynffonwen ar flodau melyn.
Cyflwynwyd gwobrau i’r ddau enillydd, sef llyfrau amgylcheddol i’w hysgolion a llun bach o’u ffotograff ar ganfas i’w ddangos adref neu yn yr ysgol. Cawsant eu cyflwyno gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts a’r Cynghorydd Barry Mellor a’r Cynghorydd Peter Scott a fu’n ymweld â’r ysgolion i gwrdd â’r enillwyr.


Cyflwynwyd llyfr a cherdyn i Charlotte ym Mlwyddyn 5 yn Ysgol Bryn Hedydd hefyd am ei ffotograff yn y gystadleuaeth, ac i Osian yn Ysgol Esgob Morgan.
Camau gweithredu cyntaf y Cyngor ar ôl datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019 oedd dechrau rheoli glaswelltiroedd i greu dolydd blodau gwyllt. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd yn dod â llawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd yn fraint cwrdd â’r enillwyr, ac rydw i’n gwybod bod fy nghydweithwyr yn teimlo’r un fath. Mae eu hangerdd dros helpu natur leol a dysgu amdani yn hynod o ysbrydoledig. Hoffem longyfarch Elis a Wynter eto am eu delweddau hyfryd a diolch i’r holl ddisgyblion a gymerodd amser i roi cynnig ar y gystadleuaeth.”
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y gystadleuaeth eto yn y gwanwyn/haf.