19/05/2026
Gwasanaeth arlwyo yn cael ei gydnabod am ddarparu bwydlenni ysgol

Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Ddinbych wedi ennill Tystysgrif Cydymffurfiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am eu bwydlen cinio ysgol newydd sy’n rhedeg fesul tair wythnos ac a ddechreuodd ar ôl gwyliau’r Pasg.
Mae’r gwasanaeth yn sicrhau bod pob bwydlen yn gytbwys, wedi’u dadansoddi a’u cymeradwyo yn unol â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.
Er mwyn paratoi ar gyfer Rheoliadau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru a ddaw i rym ar 31 Hydref 2026, mae’r gwasanaeth yn mynd ati i gyflwyno sawl newid iach.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Newid y fwydlen i gynnwys amrywiaeth eang o brydau cartref.
- Lleihau nifer y diwrnodau pan fo pwdin ar gael, o bum diwrnod i ddeuddydd, gyda dewisiadau sy’n cynnwys ffrwythau.
- Cynnig darnau ffrwyth a Iogwrt lleol Llaeth y Llan ar y tri diwrnod arall.
- Darparu bara 50/50 ar gyfer brechdanau.
Cafodd y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion ei gydnabod yn ddiweddar fel y gwasanaeth arlwyo sy’n perfformio orau yng ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus yn gynharach eleni.
Mae’r gydnabyddiaeth hon gan Gymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i seilio ar gymariaethau â gwasanaethau prydau ysgol eraill o bob cwr o’r DU. Mae’n ystyried agweddau fel nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad y gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rydym yn ddiolchgar i’n staff arlwyo am gyflawni’r gydnabyddiaeth hon trwy eu gwaith parhaus i ddarparu bwydlen well a mwy iach i gefnogi disgyblion ein sir trwy gydol eu haddysg bob dydd.
“Mae’r gwasanaeth arlwyo yn dal i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwerth am arian o ran ansawdd y bwyd a ddarperir i ddisgyblion yn ein hysgolion.”
Mae gan holl ddisgyblion ysgolion Cynradd Sir Ddinbych hawl i brydau ysgol am ddim ac fe anogir rhieni, yn benodol y rhai sy’n cael budd-daliadau penodol, i wneud cais swyddogol am Brydau Ysgol am Ddim, oherwydd mae’r cais hwn hefyd yn cynnig mynediad i’r Grant Hanfodion Ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth, gall rhieni weld y bwydlenni cynradd newydd ar wefan Prydau Ysgol Sir Ddinbych.